Cornel Gymraeg

 

Cartref>Dewch i Ymuno

 

SUT I HYSBYSEBU EICH BUSNES AR CORNEL GYMRAEG

Gwaith hawdd yw hysbysebu eich busnes. Mae gennych ddau opsiwn.

a) Os oes gennych Wefan eisoes gellwch ei chysylltu â thudalen fusnes  Cornel Gymraeg. Cewch hefyd hysbysebu ar Adran Fusnes Cornel ac ar y gwefannau www.CaernarfonOnline.co.uk  www.VisitCaernarfon.com Y cyfan sydd raid ichi ei wneud yn un ai  rhoi galwad ffôn i      

(010286) 676166, anfon llythyr at

Caernarfon Online, 16, Pen y Graig, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2AL neu ebost i

Hysbys@Cofis.co.uk

Os oes gennych Wefan, yna fe ofynnwn ichi am y canlynol: Cyfeiriad eich Gwefan, cyfeiriad y busnes a manylion am y gwasanaeth a gynigiwch. Bydd eich hysbyseb yn ymddangos ar y Wefan hon ac ar yr un swyddogol a Visit Caernarfon o fewn wythnos.

b) Onid oes gennych Wefan, yna mater bychan fydd ichi gael un. Y cyfan sydd raid ich ei wneud yw cysylltu â ni ar unrhyw un o’r cyfeiriadau uchod. Bydd angen ichi wedyn anfon manylion ynglyn â’ch busnes neu wasanaeth, gan gynnwys eich cyfeiriad a chyfeiriad ebost (os yn berthnasol). Dylech hefyd anfon lluniau o’ch busnes atom. Onid oes gennych rai yn barod, fe ddown acw a thynnu lluniau yn rhad ac am ddim.

Codir tâl o £100 y flwyddyn am safle tair tudalen a hynny I gynnwys defnydd i ffitio tair tudalen A4.

Os oes gennych eich Gwefan eich hun, yna £50 y flwyddyn fydd y gost.

Os ydych angen eich enw Gwefan eich hun, yna gellir trefnu i brynu un ar eich cyfer am y tâl arferol o £25 y flwyddyn.

 

 

 


Copyright (c) 2006 www.CaernarfonOnline.co.uk. All rights reserved.

websites@CaernarfonOnline.co.uk