| |
Rydym ni ar Gornel
Gymraeg, Caernarfon Arlein yn hynod falch o gael cyhoeddi rhestr lawn o’r
gwobrau a dderbyniodd disgyblion Ysgol Syr Hugh Owen yn Eisteddfod yr Urdd yn
Rhuthun eleni. Mae’r rhestr ei hun yn brawf digonol o ymroddiad athrawon a
disgyblion a fu’n ymarfer am fisoedd lawer i sicrhau y fath lwyddiant a gwyddom
bod pobl tref Caernarfon yn gwerthfawrogi’n fawr maint eu llafur a’u bod yn
haeddu pob clod am gyrraedd safon aruchel yn y cystadlaethau.
Dyledus ydym hefyd i Miss
Lisa Roberts am gydsynio i anfon y rhestr inni ac am drefnu i un o’r disgyblion,
Heledd Gwyn Lewis, i roi ar gof a chadw ei hatgofion hynod ddiddorol o
weithgareddau’r wythnos. Mawr ddiolch iddynt.
T. Meirion Hughes,
Golygydd, Cornel
Gymraeg.
Eisteddfod yr Urdd
2006
1af – Côr Bechgyn Bl 13
ac iau, 1af – Ymgom Bl 7-9, 1af – Meinir Roberts – Unawd Alaw Werin Bl 10 – 13,
1af – Meinir Roberts a Ffion Llwyd – Deuawd
Cerdd Dant Bl 10 – 13, 2il – Côr Bechgyn Bl 7 –
9, 2il – Côr SA Bl 7 – 9, 2il – Côr Cerdd Dant Bl 13 ac iau, 2il – Côr SATB Bl 13 ac iau, 2il – Elin
Mair Jones – Llefaru Bl 10 – 13, 2il – Fferat -
Grwp Pop dan 25, 3ydd – Dawnsio Disgo Bl 7
–9
Eisteddfod Yr Urdd,
2006.
Dydd Mercher, Mai 31,
2006.
Gwawriodd bore olaf
mis Mai, ac roeddwn i wedi deffro ers 6 o’r gloch y bore. Wedi misoedd o
ymarferion, roedd yr awr fawr wedi cyrraedd! Diwrnod cyntaf y cystadlu i mi.
Wrth gwrs, roedd hi wedi bod yn ddigon gwlyb ac oer ar y maes, ond roedd yr haul
wedi codi dros foel Fama ac yn tywynnu’n braf ar Ruthun y bore yma. Cyrhaeddais
y maes am 7:30, a doeddwn i ddim wedi deffro’n iawn eto, ond i ffwrdd a mi i
wylio rhagbrawf. Yn ôl traddodiad yr Eisteddfod, roedd y rhagbrofion yn rhedeg
yn hwyr, ond cyn hir fe ddaeth y delyn i’r fei, a’r beirniad ddim yn bell ar ei
hôl! Roedd yn braf cael eistedd yn ôl a bod y feirniad ‘answyddogol’ am
newid.
Wedi hynny, fe es
draw i gyfarfod criw yr ymgom. Wrth i’r nerfau gronni, cerddom draw at y
rhagbrawf a phawb yn dechrau cnoi eu hewinedd yn dawel! O’r diwedd, fe ddaeth yr
awr a chyfle i Sion, Lowri, Iestyn a mi weld os oedd y misoedd diwethaf o
ymarfer wedi bod o werth o gwbl. Cefais bwmp o adrenalin ac roeddwn yn barod i
fynd. Cysgododd y nerfau a daeth egni rhyfeddol o rywle. Aeth y perfformiad yn
wych a’r pedwar ohonom- a Mrs Owens a Miss Lyall wedi cael gwefr ac yn falch
iawn o’n gilydd.
Gwasgarodd y criw o
amgylch y maes anferth a phawb yn cael cyfle i weld y golygfeydd prydferth a
chwilio am fwyd- wrth gwrs! Yna daeth neges i fy ffôn : “Dachi wedi cael llwyfan
efo’r ymgom. Llongyfarchiadau! Cyfarfod gefn llwyfan am dri.” Neidiais mewn
cynnwrf. Roedd cyrraedd y Genedlaethol wedi bod yn gamp yn ei hun, ond roedd
cael llwyfan fel eisin ar y gacen. Cerddais o amgylch y maes tuag at gefn
llwyfan am dri a phawb ohonom wedi gwirioni.
Tarodd y nerfau fi
fel ergyd gwn. Roeddwn i am fod yn perfformio ar y llwyfan, a hynny o flaen
cynulleidfa fyw yn y pafiliwn, ac ar y teledu. Hedfanodd yr amser ac fe ddaeth
ein hawr fawr i serennu. Ychydig funudau’n ddiweddarach, roedd y cwbl drosodd,
a’r perfformiad wedi mynd yn wych a’r holl beth yn hollol wefreiddiol. Gwyddwn
wedi hynny fod y canlyniad i ddod. Wrth aros gefn llwyfan, mi wnaethom ffrindiau
newydd, sydd yn un o’r pethau pwysicaf am yr Eisteddfod yn fy marn i. Pwy oedden
nhw, ond criw yr ymgom oedd yn cystadlu yn ein herbyn! Felly, yng nghanol y
teimlad cyfeillgar fe gyhoeddwyd mai Ymgom Ysgol Syr Hugh Owen oedd yn fuddugol!
Roedd y pedwar ohonom ar ben ein digon. Dyna ddiwrnod gwych drosodd ac mi es yn
syth i fy ngwely- roedd diwrnod llawn cynnwrf a phrysur o fy mlaen yfory, a
chychwyn cynnar unwaith eto!
Dydd Iau, Mehefin 1,
2006.
Cododd yr haul bore
Iau, ac mi roeddwn ar fy nhraed am 6 y.b. unwaith eto! Roeddwn i wedi dod i
arfer â’r holl godi cynnar-bron, ac mi roeddwn ar y maes cyn 7:30. Ymlwybrais
draw at ragbrawf y Parti Cerdd Dant. Roedd aelod o’r parti wedi mynd ar goll ar
ei ffordd yno, felly fe benderfynom aros amdani, gan sefyllian o gwmpas am
dipyn. Wedi’r aros, cyrhaeddodd y ferch, ac i mewn â ni i’r rhagbrawf. Ar ôl
canu, roedd yn rhaid brysio’n syth i’r rhagbrawf nesaf sef y Parti Merched.
Aethom i mewn i’r rhagbrawf i weld ambell barti, ac wedi hynny fe aethom allan i
gyd i gael dangos beth oeddem yn gallu ei wneud. Gwibiodd ein hamser i
ddisgleirio a phawb yn brysur ar ôl hynny’n trafod ein perfformiad.
Ymhen hir a hwyr,
daeth y canlyniad siomedig-doeddem ni ddim wedi cael llwyfan efo yr un o’r ddwy
gystadleuaeth. Felly, roedd cyfle i ni fynd o amgylch y maes am dipyn. Wedi
llowcio fy nghinio, aethom am ragbrawf y Côr 7,8 a 9. Dwi’n credu fod canlyniad
gwael wedi gwneud pawb o’r merched yn fwy penderfynol o wneud ein gorau a chael
llwyfan. Ac mae’n rhaid ei fod o wedi gweithio! Do, fe gawsom lwyfan a phawb
wedi gwirioni.
Ar ôl crwydro’r maes
am amser go hir, fe aethom i gefn y llwyfan a phawb wedi cyffroi ac yn barod i
ganu ar y llwyfan. Fe aeth y perfformiad yn wych a’r nerfau wedi diflannu’n
gyfan gwbl erbyn canol y darn, a’r teimlad o fwynhad llwyr wedi cymryd drosodd.
Roedd pawb wrth eu boddau ac yn barod am y canlyniad. Er fod yna rhyw deimlad
yng nghefn fy mhen fod y côr a ganodd drydydd yn well na ni, roeddwn dal yn
awyddus i glywed y canlyniad. Yn anffodus, ail a gafodd ein côr, ond roedd pawb
yn falch ein bod wedi gwneud cystal. Gwely cynnar eto, roedd yn rhaid deffro am
chwech eto yfory! Yn sicr roedd diwrnod cyntaf mis Mehefin wedi bod yn ddiwrnod
gwych.
Dydd Gwener, Mehefin 2,
2006.
Erbyn hyn roeddwn yn
dechrau blino ar weld oriau o’r bore nad oeddwn yn arfer eu gweld! Unwaith yn
rhagor, roeddwn ar y maes am 7:30. Pam oedd yn rhaid i fy rhagbrofion i fod mor
gynnar bob bore? Ffurfiodd y Côr Cerdd Dant yn barod am y rhagbrawf ac i mewn â
ni. Aeth y rhagbrawf yn wych a dim golwg o’r nerfau.
Roedd awyrgylch
gyfeillgar yno a phawb yn garedig. Yna, wrth grwydro’r maes, clywais fod y Côr
Cerdd Dant wedi cael llwyfan. Wel am ‘Steddfod dda oedd hon wedi bod, ac rwan,
roedd mwy i ddod! Roedd pawb yn fwy ymlaciol gefn llwyfan heddiw, mae’n debyg
fod hyn i wneud efo’r tywydd braf! Wrth gerdded ar y llwyfan, curodd fy nghalon
yn gyflym ac roeddwn yn nerfus gan nad oedd neb yn ein harwain. Ar ôl yr aros
hir, fe ddaeth y canlyniad- 2il i Ysgol Syr Hugh Owen. Ddim yn ddrwg. Roedd hon
wedi bod yn Eisteddfod dda, ac yn un llwyddiannus i Ysgol Uwchradd Syr Hugh
Owen!
Heledd Gwyn Lewis Blwyddyn
9
|