|
Ein braint ni, Cornel
Gymraeg, CaernarfonArlein, yw cael cyflwyno un o arlunwyr mwyaf poblogaidd ein
tref. Magwyd Tom Griffith yn Stryd John Llwyd, un o hen strydoedd tref
Caernarfon a enwyd ar ôl y pensaer o
Twtil, John Lloyd, a fu’n gyfrifol am godi nifer o adeiladau adnabyddus, megis
Capel Ebenezer, Y Farchnad yn Stryd y Plas a’r hen waith Nwy ar ffordd Santes
Helen.
Cymerodd Tom at arlunio yn
hogyn ifanc iawn ac mae ganddo gof o fynd yn rheolaidd i siop Rathbone Jones yn
Stryd y Llyn i brynu papur arlunio arbennig am un geiniog y dudalen. Pan oedd yn
naw oed bu raid iddo dreulio peth amser yn Ysbyty Eryri, Caernarfon, yn gwella
ar ôl triniaeth lawfeddygol. Sylweddolodd rhai, bryd hynny, bod ganddo ddawn
neilltuol i dynnu lluniau, a rhoddodd staff Eryri ynghyd â’r Dr. Hilton Parry,
anrheg iddo yn cynnwys tabledi dyfrlliw. Yna dechreuodd dynnu lluniau o rai o’r
cleifion, a hyd yn oed un llun o Dr. Hilton Parry ar ymweliad â’r
Ysbyty.
Yn yr Ysgol Rad ac
Ysgol Segontium hefyd, daeth ei ddawn i amlygrwydd a rhoddwyd cefnogaeth iddo
gan ei athrawon. Yn 1944 ac yntau yn ddim ond 17 oed, ymunodd â’r Llynges a
threuliodd bedair blynedd yn y Dwyrain Pell. Gwnaeth ffrindiau â theulu o
dras Cymreig yn Hong Kong, a chyda hwy y
treulioddllawer o’i wyliau o’r Llynges
.
Aeth y teulu hwn ag ef i’r
“New Territory” , lle roedd y
golygfeydd yn wahanol, ond gwell oedd ganddo fraslunio’r brodorion, y Tsieineaid
yn eu dillad traddodiadol gyda’u hetiau
cwli, merched a phlant yn llafurio wrth ochr y lôn yn torri cerrig ar gyfer y
diwydiant adeiladu.
Mae tlodi yn adrodd cyfrolau,
yn fwy dynol, yn fwy real ac yn llawn teimlad. Yn anffodus, dim ond un llun sydd
ar ôl yn ei feddiant, un o ferch Tsieineaidd gyda’i mam yn llafurio wrth ochr y
lôn. Gadawodd y gweddill o’i luniau yn Kai Tak a Hong Kong.
Pan ryddhawyd ef o’r Llynges,
aeth ar Gwrs Diploma, 5 mlynedd mewn Arlunio Masnachol a bu hefyd am ddwy
flynedd mewn Ysgol Nos yn y Coleg Technegol, Bangor yn astudio o dan Mr. Burgess
Sharrocks, arlunydd masnachol enwog yn ei ddydd.
Mae’n wir dweud bod pob
darlun yn adrodd stori, ond teimlai Tom bod ffigurau dynol yn gwneud gwahaniaeth
dirfawr i waith creadigol. Dechreuodd beintio lluniau o’r hen Gaernarfon dros 30
mlynedd yn ôl, ar argymhelliad ei ddiweddar gyfaill a’r hanesydd lleol, Cledwyn
Flynn-Hughes, Cyfrifydd a oedd â’i swyddfa y drws nesaf i westy’r Black Boy. Ei
syniad gwreiddiol ef ydoedd, ond gwyddai Tom, ar yr un pryd, bod hyn yn rhywbeth
roedd ef hefyd yn awyddus i’w wneud.
Yn ffodus, o safbwynt
hanesyddol, mae Tom wedi rhoi rhai o’i atgofion fel plentyn ar gynfas, rhai fel
llun o’i rieni yn darparu Coeden Nadolig allan o ddau gylch pren a phapur
lliwgar o “Woolworths” . Derbyniwyd y
llun hwn i’w arddangos yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd, 1993, ynghyd ag un
arall o blant yn chwarae “Gêm Esgid” ar y stryd. Prynwyd yr olaf gan Dr. Alan
Armstrong ar gyfer Prifysgol Agored Cymru.
Dyma’r math o ddarluniau sy’n
codi hiraeth ac yn boblogaidd gan lawer o deuluoedd a adawodd eu gwlad enedigol
a mynd i fyw dramor. Yr hyn a rydd bleser di ben draw i’r arlunydd yw cofio a
phaentio rhai llefydd a chymeriadau nad ydynt yn bod bellach. Gwerthfawroga,
hefyd, y gefnogaeth a gafodd gan ei deulu ar hyd y blynyddoedd ac yn arbennig
felly gefnogaeth ei wraig Odette, sy’n hanu o’r Swistir, ac mae’n cydnabod hynny
trwy ddefnyddio 3 llythyren ei henw morwynol ENZ a’u hychwanegu at ddwy lythyren
gyntaf ei gyfenw GR i ffurfio’r enw GRENZ a dyma’r enw a ddefnyddia i arwyddo ei
ddarluniau.
Mae’r gair GRENZ yn ein
hatgoffa o’r gair Almaeneg am Y FFÎN – DIE GRENZE. Tybed nad oes arwyddocâd yn ei ddewis o enw? Onid mynd â ni’n ôl dros
Y FFÎN i’r gorffennol yw’r hyn sy’n gwneud ei ddarluniau mor
boblogaidd?
Gyda’r Nadolig yn nesau a
hithau’n adeg chwilio am anrhegion, yn sicr bydd llawer ohonoch yn awyddus i
wybod mwy am ddarluniau hanesyddol o Gaernarfon gan yr arlunydd Tom Griffith –
Grenz.
|