|
YSTYR ENW Mai 31
2006
Y tro diwethaf bu Mr. Vernon Pierce
yn trafod yr enw PENSCOINS gan roi inni un dehongliad o’r ystyr, a’r tro hwn
cawn ddehongliad arall gan yr hanesydd lleol Mr. W.O. Jones. Rhan o ddarlith
yw’r isod, o eiddo Mr. Jones, a draddododd yn ddiweddar i Gymdeithas Hanes Y
Felinheli:
Dros y blynyddoedd gofynnwyd llawer
o gwestiynau am ystyr yr enw PENSCOINS, sydd uwchlaw pentref Y Felinheli. Roedd
yna fferm o’r enw Penscoins a stryd o fythynnod – Bythynnod Penscoins – yn
ogystal. Yma hefyd oedd pen y daith i’r trên oedd yn cario llechi o Chwarel
Dinorwig (Llanberis) a chyfeirid at Penscoins fel cyffordd, oherwydd oddi yno
oedd y wagenni llawn llechi yn cael eu trosglwyddo a’i gollwng i lawr y llethr
(Incline) i’r harbwr yn Y Felinheli. Ond, er holl bwysigrwydd Penscoins nid oedd
neb yn gallu egluro ystyr yr enw.
Beth amser yn ôl roedd rhaglen ar
Radio Cymru yn olrhain ystyr enwau llefydd, ond er i rywun ofyn am ystyr
Penscoins, ni chafwyd goleuni ar y mater. Yn dilyn hynny, cofiaf imi ddarllen
llyfr gan J.C. Boyd, a oedd yn arbenigwr ar chwareli ledled Prydain ac yn ei
drydedd gyfrol mae’n canolbwyntio ei sylwadau ar Chwarel Dinorwig, gyda’i
rheilffordd o’r chwarel i lawr at Penscoins, ac ymlaen i Harbwr Y
Felinheli.
Dywed J.C. Boyd iddo amau cywirdeb
yr enw ac mai gair llygredig oedd Penscoins . Awgrymodd mai PEN YSGOI a ddylai
fod, sef cyfeiriad at y rheilffordd yn osgoi pentrefi Penllyn, Pontrhythallt a
Bethel ac yn cyrraedd pen y daith yn y fan a elwir yn PEN YSGOI.
Tybed a fydd dadansoddiad J.C. Boyd
o’r enw hwn yn cael ei dderbyn fel yr enw gwreiddiol, cywir, ar y fan
yma?
W.O. JONES.
Boed i Mr. Jones dderbyn diolch
golygydd y Gornel Gymraeg am ei gyfraniad diddorol yntau a da fyddai gennym
gyhoeddi unrhyw sylw gan eraill o drigolion Y Felinheli sydd â barn am yr enw
hwn.
T Meirion Hughes.
Penscoins 12 Mai
2006
Tybiwyd mai PEN OSGOI oedd yr enw
gwreiddiol iPenscoins. Roedd yr hen ffordd ar hyd arfordir Y Fenai yn troelli i
fyny ac i lawr yn union fel y mae hen lonydd gwledig wedi bod ers
canrifoedd.
Gyda’r tyfiant yn y boblogaeth,
porthmyn yn gyrru anifeiliaid trwodd a chynnydd masnachol, roedd y lonydd yn
prysuro. Agorwyd lon bost newydd ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif o Fangor i
Gaernarfon gyda Thollborth ger Eglwys y Santes Fair ar ffordd Caernarfon. Roedd
wedi ei lleoli ar y gongl gyferbyn â’r allt i fyny o Glan y Môr i ddal y
drafnidiaeth o anifeiliaid o Fôn a oedd wedi croesi o Foel y Don.
Roedd yr hen lon yn troelli o Lon
Brynffynnon a heibio Tafarn y Grisiau ac ymlaen i Gaernarfon, ond nid oedd yn
addas o bell ffordd i geffyl a throl, nac ychwaith i yrru anifeiliaid
arni.
Rhaid oedd talu, wrth gwrs, i fynd
ag anifeiliaid trwy’r Dollborth ar hyd y lon bost ac nid oedd hyn yn dderbyniol
gan y werin dlawd na’r sipsiwn. Doedd dim rhwystr arnynt i barhau i ddefnyddio’r
hen ffyrdd ar eu teithiau heibio a’r dewis oedd i fynd dros y Pen Osgoi a heibio
Boncen Sipsiwn ger Pant yr Afallen ac i lawr Lon Llwyn. Fel plant roeddem yn
cael ein rhybuddio i gadw’n glir o Boncan Sipsiwn ac yn enwedig “Llyn Boddi
Babis” gyfagos.
Wrth edrych yn ôl, fel plant,
roeddem yn crwydro’n rhydd hyd gyrion y pentref, ac mae’n amlwg fod ein rhieni’n
ofni amdanom, yn enwedig o ddwr y llyn bach diarffordd ble roeddem yn mynd i
gasglu penbyliaid. Tybed, hefyd, bod rhyw ofergoeledd yn parhau am y lle roedd y
sipsiwn yn cipio plant bach i ffwrdd.
Vernon Pierce.
Diolch yn fawr i Mr. Pierce am
ddechrau trafodaeth a byddwn yn falch o gael sylwadau gan eraill o bobl Y
Felinheli. Y tro nesaf, fodd bynnag, rhown ofod i sylwadau Mr. W.O.
Jones.
T Meirion Hughes
|