Cornel Gymraeg

 

Cartref>Passiant

 

 

UN NOS OLA LEUAD  Passiant 2008

 

Y flwyddyn hon eto ac ar ôl llwyfannu degpasiant ar ugain o wir safon ers 1977, a thrwy hynny roi boddhad mawr i gynulleidfaon o bob rhan o Ogledd Cymru, cawsom unwaith eto, berfformiadau caboledig gan Gymdeithas y Gronyn Gwenith yn Theatr Seilo, ar y nosweithiau Mawrth 11eg hyd at  Sadwrn y 15fed or mis. Roedd y theatr yn llawn i bob perfformiad a rhai yn dod o bell ac agos i’r wledd flynyddol hon, llawer ohonynt yn dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn sydd yn dweud cymaint am boblogrwydd “Wythnos y Pasiant”.

Disgynnodd y gwaith o addasu nofel enwog Caradog Pritchard, “Un Nos Ola Leuad” ar gyfer y llwyfan  ar ysgwyddau’r Parch. Harri Parri, llenor medrus y mae ein dyled ni, drigolion tref Caernarfon, yn fawr iddo. Ef yn bennaf a fu’n gyfrifol am ail ennyn diddordeb pobl y dref a’r cylch mewn actio a hynny trwy lwyfannu’n flynyddol basiant yn seiliedig ar hanes Cymru a’i llenyddiaeth. Dilyn yn ôl troed cewri fel Gwynfor gynt yn yr hen Bafiliwn sy’n awr yn perthyn i hanes ers 1962. Pwy ond efe a allai wneud y gwaith pwysig hwn o ddarparu arlwy ar gyfer ei gynulleidfa gan roi sylw dyladwy i’r difri a’r digri.

Nofel drist, ar y cyfan, yw nofel Caradog Pritchard sy’n ymwneud a’i brofiad ei hun yn blentyn, gyda’i dad yn cael ei ladd yn y chwarel a’i fam yn methu’n llwyr â dod dros ei phrofedigaeth ac yn y diwedd yn colli pob rheswm. Felly hefyd gyda digwyddiadau eraill yn ystod ei blentyndod megis colli un o’i ffrindiau bach i’r dicáu ac un arall yn gadael y pentre’n ifanc gyda’i dad i fynd i’r Sowth i weithio’n y pyllau glo am ragor o arian. Golygfeydd fydd yn aros yn y cof hefyd yw’r rhai yn ymdrin â chyfnod Y Rhyfel Mawr, gyda hanner cant o filwyr o’r ardal yn cael eu lladd yn y gyflafan. Roedd y gynulleidfa  yn yr eglwys ar Sul y Pasg a’r dorf wrth ddadrchuddio’r Gofgolofn yn 1919 yn brawf o drylwyrder y cynhyrchu a’r prif gymeriadau yn gredadwy.

Ar y llaw arall, mae digon o hiwmor iach yn y nofel ac yn cael ei adlewyrchu’n feistrolgar yn y cynhyrchiad. Gres Ifas yn cymryd oes i draddodi stori ac yn ail adrodd ei hun sawl gwaith cyn dod at y “punch line”,  y sgyrsiau rhwng y pedwar bachgen a oedd yn esiampl perffaith o ddiniweidrwydd plant ac yn tynnu gwen, sefyllfaoedd a greuwyd gan y llongwr ffraeth y tybid iddo fod wedi “llyngcu’r angor” a threulio gweddil ei oes gyda’i wraig ac yn olaf, yr ornest baffio tu ôl i’r Blw Bel gyda’r anfuddugol yn cael ei gludo oddi yno mewn berfa.

Ond yn ychwanegol at hyn i gyd yw’r canu a glywid yn ysbeidiol trwy’r cynhyrchiad. Lleisiau ifanc a rhai hyn yn swyno’r gynulleidfa o’r dechrau i’r diwedd a chyda’r Côr o’r De yn dod i Fethesda ar adeg streic yn y pyllau glo i geisio codi arian. Roedd hyn yn ychwanegu’n fawr at y mwynhad gan roi cyfle i’r gynulleidfa ymuno yn ysbryd y gweithgaredd ar y llwyfan. Rhaid cofio, wrth gwrs, mai gwaith tîm yw llwyfannu menter mor fawr â phasiant ac er sicrhau llwyddiant mae’n bwysig fod pawb yn chwarae’i ran hyd eithaf ei allu, waeth pa mor fychan neu fawr yw’r rhan hwnnw. Credaf felly bod y cydweithredu a fu rhwng y scriptiwr, y cyhyrchwyr, yr actorion a’r rhai fu’n ddiwyd y tu ôl i’r llenni wedi dwyn ffrwyth ar ei ganfed ac y maent oll i’w llongyfarch yn fawr iawn.

Cyn terfynu’r gwerthfawrogiad hwn teimlaf y dylwn dalu teyrnged i ddau brif gymeriad y pasiant a hynny heb dynnu dim oddi wrth gyfraniadau gweddill y cast. Roedd y cyfan yn troi o’u cwmpas nhw a’r ddau fel petaent yn sylweddoli’r cyfrifldeb a osodwyd arnynt ac yn rhoi o’u gorau. Roedd y sawl a gymerodd ran y bachgen, er mor ifanc ydyw, yn ymddwyn fel un yn hen gynefin â bod ar lwyfan ac yn sylweddoli mai y gamp ydyw ymddangos yn naturiol yn hytrach na bod yn naturiol ac nid oes raid i neb fod yn feirniad i allu rhagweld bod dyfodol disglair o’i flaen ym myd actio. Ei fam wedyn yn ein hargyhoeddi o’r cychwyn cyntaf mai gweddw ifanc ydoedd wedi ei hamddifadu o’i gwr trwy ddamwain angheuol yn y chwarel ac er ymdrechu’n lew i gadw’r cartref i fynd a chodi ei mab bychan, yr hiraeth yn ei llethu ac yn y diwedd yn ei gyrru i golli ei rheswm.Y demptasiwn i’r rhai sy’n cymryd rhan person gorffwyll yw gor-actio, ond ni chafwyd hynny ganddi hi. Roedd ei pherfformiad yn gynnil a’r chwerthiniad hwnnw ar ganol canu emyn yn effeithiol dros ben.

Rwyn diweddu gan ddyfynu rhan o’r hyn oedd gan y sgriptiwr Harri Parri i’w ddweud yn y rhaglen eleni : 

“Heb swnio’n rhyfygus, sawl cwmni amatur arall sy’n medru llenwi mil o seddau mewn wythnos a chadw cynulleidfa am ddeng mlynedd ar hugain? Dyna fo, eleni bydd y gwynt yn troi i’n herbyn, a ninnau’n falch o gael cau’r llenni am yr olaf dro.”

Gwn sut y byddai y diweddar Ryan Davies, un o actorion mwyaf Cymru yn ei ddydd, yn ei ateb “Nefar in Iwrop gwd boi”.

                                                                                                                 T Meirion Hughes

  Y DEWRAF O’N HAWDURON - Passiant Ebrill 2007
  Eleni, am y degfed tro ar ugain, fe lwyfannodd Cymdeithas y Gronyn Gwenith basiant yn Theatr Seilo a’r tro hwn eto, Y Parch Harri Parri oedd yr awdur. Teyrnged deilwng iawn ydoedd i un o feirdd a llenorion amlycaf hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, sef Thomas Rowland Hughes, 1903 – 1949. Llinell gyfarwydd ac wedi ei haddasu o englyn un a ystyrir yn fardd mwyaf yr un cyfnod yw’r teitl. Lluniodd Robert Williams Parry yr englyn hwn o barch ac edmygedd at ei gyn ddisgybl a chyn fyfyriwr a ddaeth i amlygrwydd, nid yn unig fel un a gipiodd ddwy gadair mewn eisteddfodau cenedlaethol, ond fel emynydd o ddwfn argyhoeddiad a nofelydd o fawr bwys yng Nghymru. Dyma’r englyn fel y mae i’w weld yn ysgrifen y bardd ei hun:

Pwy y gwr piau goron – ei henwlad

Wedi anlwc greulon?

A phwy o Fynwy i Fôn

Yw’r dewra’ o’i hawduron?

Cyfeirio y mae’r bardd yn y llinell gyrch at waeledd T Rowland Hughes, gwaeledd a’i caethiwodd a’i gyfyngu i gadair olwyn am y blynyddoedd olaf o’i oes. Ond er y carchar hwn, troes byr gyfnod o rhyw bum mlynedd i fod yr adeg mwyaf cynhyrchiol yn ei hanes a rhoes fodolaeth i 5 o nofelau a thrwy hynny gyfoethogi llenyddiaeth ei genedl. Daeth nofelau fel Y Chwalfa, O Law i Law a William Jones yn boblogaidd iawn ymysg y werin a theg yw dweud i’r nofelydd roi ar gof a chadw hen ffordd o fyw. Yn Llanberis y ganed a maged ef ac er iddo fyw’n alltud yng Nghaerdydd, at ardal chwareli Arfon y troes am ysbrydiaeth ar gyfer ei lyfrau. Rhyfedd fel mae dyn yn dychwelyd yn feddyliol at fro ei febyd mewn amgylchiadau tebyg. “Diddanwch diwedd einioes/ Yw byw ar waith bore oes” yw’r cwpled sy’n dod i’r meddwl. Un peth sy’n sicr yw mai ei wraig, Eirene, a’i cadwodd rhag digalonni yn ystod ei gystudd hir ac iddi hi y mae llawer o’r clod am ei gymell i ddal ati i sgwennu ac yn eu cartref Ger yr Llyn, Caerdydd, y cychwyn y pasiant, gyda Tom yn bur ddigalon a hithau yn ceisio ei gorau i’w gadw rhag anobeithio ac yn hau y syniad o ysgrifennu nofel am ei atgofion bore oes yn Llanberis. Cameos bychain o wahanol sefyllfaoedd  sy’n gynnwysedig yn ei lyfrau sydd yn y pasiant a’r rhai hynny oll yn llawn o’r hiwmor sy’n nodweddiadol o’r nofelydd ei hun ac o’r llenor cyfoes Harri Parri. Hynny ynghyd â hanes bywyd T Rowland Hughes o’r crud i’r bedd megis. Rhanwyd y llwyfan eang yn y theatr i dair rhan, sef o’r chwith i’r dde a) Ystafell yng nghartref T Rowland Hughes a’i wraig yng Nghaerdydd, b) Stiwdio Ddarlledu y BBC yng Nghaerdydd ac c) Cartref ei rieni yn Angorfa Llanberis. Portreadir ei fagwriaeth grefyddol, gyda’i dad yn flaenor, yn ddarllenydd cyson ac wedi colli ei iechyd trwy ddamwain ac yn methu dychwelyd i’r chwarel. Ei fam, hefyd gyda diddordeb yn y pethau ac yn awyddus i’w merch Euronwy a’i mab Tom gael yr addysg orau. Pwy all ddirnad aberth eu rhieni i wireddu hyn? Aeth Euronwy i’r Coleg Normal ac yna’n athrawes ac aeth Tom i’r Brifysgol ym Mangor, lle’r etholwyd ef yn Llywydd y Myfyrwyr ac wedi graddio yn y Saesneg aeth oddi yno i Rydychen.

Dilyn gyrfa Tom fel darlithydd yng Ngholeg yr ail gyfle Harlech, ei ddiddordeb yn y ddrama, yr hyn a arweiniodd at ei benodiad i swydd gyda’r BBC. Gyrfa lewyrchus iawn fel cyhyrchydd rhaglenni mewn cyfnod pan ddaeth Cymru i sylweddi pwysigrwydd y cyfrwng hwn cyn belled ag yr oedd yr iaith yn y cwestiwn. Dod i gysylltiad ag actor o’r gogledd, Prysor Williams, y gwr y dywedir i Tom batrymu’r cymeriad “William Jones” arno. Golygfa arall gofiadwy oedd yr un o “Eisteddfod yr Awyr” pan gyhoeddodd Beirniad Y Gadair enw’r bardd buddugol a chael mae T Rowland Hughes, cynyrchydd y rhaglen ydoedd. Roedd y cynhyrchu a’r actio yn dal diddordeb o’r dechrau hyd y diwedd a’r teyrngedau ar ddydd yr angladd yn effeithiol dros ben. Unwaith eto mae ein dyled fel trigolion y dref yn fawr i Gymdeithas y Gronyn Gwenith am lwyfannu cynhyrchiad o safon ac am allu denu cynullfeidfaon o bob rhan o Ogledd Cymru i’r perfformiadau. Camp nid bychan a ’does ryfedd bod y bobl hyn yn dychwelyd i’r theatr flwyddyn ar ôl blwyddyn.   Ond er mor ganmoladwy ydoedd cyfraniadau y cynhyrchwyr a’r actorion oll a phawb a fu’n cynorthwyo y tu ôl i’r llenni, rhaid yw rhoi’r lle blaenllaw i’r Parch Harri Parri, awdur “Y Dewraf o’n Hawduron” am roi inni unwaith yn rhagor basiant a fydd yn aros yn hir yn y cof ac un y byddai’r gwrthrych yn ei werthfawrogi.

Fel sy’n wybyddus bellach, cafodd yr awdur driniaeth law feddygol lwyddiannus mewn ysbyty ym Manceinion yn ddiweddar ac afraid dweud y bydd pobl tref Caernarfon a llawer trwy Gymru gyfan yn dymuno adferiad llwyr a buan iddo.

T Meirion Hughes
 

Y PASIANT ELENI GAN HARRI PARRI - Ebrill 2006

 

PELL YW’R WAWR A’R NOS YN HIR”

Mae Cymdeithas y Gronyn Gwenith wedi bod mewn bodolaeth ers naw mlynedd ar ugain bellach ac mae caredigion y ddrama, ar hyd a lled Gogledd Cymru, wedi cael mwynhad o’r mwyaf yn gwylio’r perfformiadau caboledig, y naill flwyddyn ar ôl y llall. Caed amryw o’r pasiantau yn ymdrin â  bywydau personau o hanes Cymru fel Y Parch. John Williams. Brynsiencyn, yr emynydd Ieuan Gwyllt, Bardd y Gadair Ddu, Hedd Wyn ayyb.

Y flwyddyn hon eto cafwyd perfformiad cofiadwy arall o addasiad Y Parch. Harri Parri ar gyfer y llwyfan, yn ymdrin â hanes y bardd ifanc addawol, David Ellis (1893 – 1918), o Penyfed, Llangwm. Bydd rhai yn cofio disgwyl yn eiddgar am gyhoeddi un o gyfrolau Cyhoeddiadau Barddas “Y Bardd a Gollwyd, David Ellis” gan y Prifeirdd Alan Llwyd a Elwyn Edwards rai blynyddoedd yn ôl a chydnabu Harri Parri ei ddyled iddynt am eu gwaith ymchwil trylwyr. Delio â ffeithiau yn ddeheuig iawn a wnaeth y prifeirdd hyn ac roedd y gyfrol yn adrodd yr hanes mewn ffordd hynod ddiddorol.

Dywed Harri Parri, ar llaw arall, nad addasiad o’r gyfrol, fel y cyfryw, yw’r pasiant ac mai dychmygol yw rhannau helaeth ohono, fel y fflachiadau o orffennol y bardd o’i ddyddiau ysgol hyd at ddyddiau coleg a thu hwnt. Roedd y rhai hyn yn effeithiol dros ben ac yn dod â ffeithiau eraill i’r amlwg. Enghraifft o hynny yw mai trwy’r iaith Saesneg yr oedd yr Athro a’r Gramadegydd, Sir John Morris Jones, yn darlithio ar y Gymraeg a hynny yn rhoi cyfle i’r awdur i ddod â’r hiwmor, sydd mor nodweddiadol o’i weithiau llenyddol, i mewn i’r pasiant.


Aelodau o'r Corfflu Medygol

Hanes trist o gyfnod y Gyflafan Fawr 1914 – 1918 yw hanes David Ellis. Pan ddaeth gorfodaeth milwrol i rym yng nghanol blynyddoedd y rhyfel, gwrthododd llawer ag ymuno â’r Lluoedd Arfog ar sail eu daliadau crefyddol. Roedd y sefyllfa yn peri penbleth i’r awdurdodau a’r hyn a wnaed oedd ffurfio yr hyn a elwid yn “Non Combatant  Corps”, lle na orfodid i’r milwyr hyn gario arfau fel na byddai iddynt ladd neb. Ymunodd llawer a’r fyddin o dan y amodau hyn ac anfonid hwynt i Faes y Gad fel rhan o’r Corfflu Meddygol i weini ar y rhai a anafwyd. Yn eu mysg yr oedd llawer iawn o fyfyrwyr diwinyddol yn ogystal â gwrthwynebwyr cydwybodol eraill.

Ymunodd David Ellis â hwy ac anfonwyd ef a llawer o’i gyd Gymry i Salonica lle bu’n gwasanaethu fel “Medical Orderly”. Treuliai beth o’i amser hamdden yn llenydda a barddoni gan gyfansoddi cerddi i rai o’u gyfeillion a gollwyd trwy afiechyd. Anfonai hefyd lythyrau at ei gariad, Gwenni, adref yng Nghymru ac i Benbedw ar ôl iddi fynd i weithio yno.


David Ellis

Rhywbryd yn ystod y flwyddyn 1918 a phethau i weld yn gwaethygu o safbwynt Prydain yn y rhyfel yn Salonica, daeth si bod angen mwy o filwyr yn y ffrynt a byddai raid i rai fel David Ellis gymryd i fyny arfau. Roedd hyn yn peri poendod mawr iddo ef yn bersonol fel i’w gyfeillion. Er y bygythiad fe gyhoeddodd yn bendant na fyddai byth yn codi arf yn erbyn neb, ond roedd ei ymddygiad yn un o wr isel ei ysbryd ac ni fynnai ei gysuro gan ei gyfeillion. Yna dderbyniodd yr hyn elwir yn Saesneg yn ”Dear John letter”. Llythyr gan ei gariad i ddweud ei bod wedi cyfarfod â dyn arall a’u bod am briodi. Roedd hon yn ergyd drom iddo a daeth i gredu na fyddai’r rhyfel yn dod i ben am flynyddoedd lawer ac na welai ef byth Gymru wedyn. Erbyn hyn roedd yr iselder wedi ei feddiannu’n llwyr ac ofer pob ymgais gan ei gyd filwyr i’w gysuro.

Diwedda’r olygfa olaf yn effeithiol iawn trwy iddo roi yng ngofal un o’r milwyr gerddi o’i waith ac ysgrifau. Yna, ar ôl i’w gyfeillion adael yr ystafell, gwelwyd ef yn taflu ei lyfr nodiadau a’i ddisc adnabod ar y llawr a cherdded yn hamddenol oddi ar y llwyfan.

Dyna ddiwedd y pasiant ac, yn wir, ar hanes y bardd ifanc hwn. Ond erys y dirgelwch ynglyn â’r hyn a ddigwyddodd iddo, gan na welwyd byth mohono wedyn.

                                                                                                                T. Meirion Hughes

 

 


Copyright (c) 2006 www.CaernarfonOnline.co.uk. All rights reserved.

websites@CaernarfonOnline.co.uk