|

Cyfeiriad e bost: cymen@btconnect.com gan nodi mai deunydd
ar gyfer PAPUR DRE ydyw.
|
Rhifin Diwethaf (Ionawr 2008) Papur Dre
|
|
|
DIGWYDDIADAU’R
CALAN GAN MLYNEDD YN ÔL
Nid yw yn rhy hwyr imi ddymuno Blwyddyn Newydd
Ddedwydd Dda i ddarllenwyr Papur Dre a balch wyf o gael cydnabod
gwerthfawrogiad amryw ohonoch o’m hymdrechion i ddod ag arlwy ichi sydd wrth
eich dant o fis i fis. Gallaf eich sicrhau fod hyn yn rhoi cymaint pleser i mi
ag yw i chwithau. I’r rhai ohonoch sy’n gwylio’r rhaglenni ar y teledu am y
ditectif hwnnw a greuwyd gan Agatha Christie, Hercule Poirot, fe wyddoch iddo
gyfeirio yn fynych at y pwysigrwydd o ddefnyddio’r “grey cells” a chredaf innau bod treulio awr neu ddwy yr wythnos yn
yr Archifdy yn help i hen ddyn i roi mîn ar ymennydd.
A Blwyddyn Newydd arall wedi hen wawrio
bellach, meddyliais y byddai gan ddarllenwyr Papur Dre ddiddordeb yn yr hyn
oedd yn digwydd yng Nghaernarfon gan mlynedd union yn ôl, sef ar ddechrau
1908. Nid oedd le gwell, felly, i ddod o
hyd i’r fath wybodaeth nag yn rhifyn cyntaf mis Ionawr y flwyddyn honno o bapur
lleol a dyma rai pytiau o’r newyddion a dynnodd fy sylw:
1)
Blwyddyn Naid. Gyda dyfodiad Blwyddyn Naid,
cafodd hyn effaith andwyol ar hen lanciau Caernarfon. Aeth un ohonynt allan Nos
Fawrth diwethaf a’i fryd ar weld dyfodiad y flwyddyn newydd ar y Maes. Fodd
bynnag, am ddeng munud i hanner nos, trawyd ef gan syniad y dylid rhannu’r
flwyddyn 1908 yn bedair rhan a chan ddymuno “Nos Da” i’w ffrindiau, troes ar ei
sawdl a dychwelodd i’w lety yn fwy difrifol ac yn ddyn doethach.
2) Digwyddiad ar gae peldroed. Mewn gêm rhwng Caernarfon a Chaergybi yn yr Oval ar y Sadwrn a chyn hanner amser ymyrrwyd ar y chwarae trwy i
un o’r gwylwyr chwythu pib a rhoes y dyfarnwr ddiwedd ar y chwarae. Mynnodd bod
y swyddogion yn dod o hyd i’r bib cyn y byddai’n caniatau i’r gêm fynd yn ei
blaen. Ymhen amser taflwyd y bib o blith criw o gefnogwyr at y swyddogion ac
fe’i cadwyd. Caniatawyd i’r gêm ailgychwyn.
3) Dathlu’r Flwyddyn Newydd. Bu i griw mawr ymgynull ar Y Maes yn ôl yr arfer i ddisgwyl y Flwyddyn
Newydd Nos Fawrth ddiwethaf. Canwyd rhai o donau’r Annibynnwyr pan darodd y
cloc hanner nos. Ar yr un pryd, ar orchymyn yr Anrhydeddus F. G. Wynne,
Glynllifon, taniwyd y gwn mawr yn y Belan. Cynhaliwyd Gwasanaeth Gwylnos yng
Nghapel Ebenezer o dan arweiniad y Parchg. Hugh Hughes. Cafwyd rhaglen
ardderchog o dan ofal Mr. Harold Stephens, Lerpwl; Mrs. Susie Pritchard,
Caernarfon; Messrs. G.J. Jones, Nantlle; H. Vaughan Davies, Caernarfon a Mr.
John Williams, (Organydd Christ Church)
wrth yr organ. Ar ddydd Mercher pregethwyr y Calan oedd y Parchedigion Hugh
Hughes a D. Gwynfryn Jones.

Bron na allaf
glywed rhai ohonoch yn dweud, “O fel mae pethau wedi newid - ac nid er gwell
‘chwaith”. Eraill yn anghytuno ac yn gweld tebygolrwydd yn ymddygiad pobl
Caernarfon yn 1908 â phobl heddiw ac yn dadlau “mai yr un yw dyn ar bum
cyfandir – ac ym mhob oes hefyd”.
Cyfeiriad sydd yn y
dyfyniad cyntaf at yr hen goel bod gan ferch hawl i ofyn i’w chariad ei phriodi
yn ystod Blwyddyn Naid ac roedd llawer yn credu hynny. Anodd dweud, fodd
bynnag, a oedd unrhyw wir yn yr hanesyn am yr hen lanc hwn a gafodd draed oer
am ddeng munud i hanner nos ac a ddychwelodd i ddiogelwch ei lety. Tybed nad
stori ‘wneud’ ydoedd gan ddyn papur newydd i dynnu sylw at y ffaith bod 1908 yn
Flwyddyn Naid ac i atgoffa’r darllenwyr o’r ofergoel? Y gwahaniaeth rhwng 1908
a 2008 yw bod llawer llai yn cymryd sylw o’r fath gred heddiw.
Diddorol hefyd yw’r
ail ddyfyniad am y digwyddiad ar gae pel droed yr Oval o ystyried fel y mae rhai cefnogwyr yn colli eu pennau yn lân
ac yn enwedig felly, pan fo’r tîm y mae’n nhw yn ei gefnogi yn cael cam neu yn
debygol o ildo gôl. Y cwestiwn i’w ofyn yw ai pranc ydoedd ynteu ai yn fwriadol
y chwythwyd y bib gan fod mantais gan y gwrthwynebwyr? Fodd bynnag, rhaid
canmol y dyfarnwr ar ei safiad a phrofodd mai ganddo ef oedd y gair olaf. Er
hyn mae’r digwyddiad yn ymddangos yn bur ddiniwed o ystyried yr hyn a welir ar
faesydd peldroed y dyddiau hyn.
Ynglyn â’r dathlu
ar Y Maes, prin y byddai tonau’r Annibynwyr, na rhai’r un enwad arall o ran
hynny, yn cael eu canu yno yn yr oes sydd ohoni a thawedog fu’r gwn mawr yn y
Belan, er inni gael ein byddaru gan sawl swn tân gwyllt i groesawu’r Flwyddyn
Newydd. Rhyfedd ynte? Mae phopeth o bwys yn ein byd yn digwydd mewn
distawrwydd? Ni chlywodd neb yr haul yn machlud na’r wawr yn torri! A beth am
yr Wylnos a’r doniau enwog yn eu dydd yn Ebenezer a heb sôn am gyfarfod
pregethu ar Ddydd Calan? Wel, do! Fe ddaeth sawl tro ar fyd a chan deimlo peth
anesmwythid cofiais englyn J.H. Roberts, (Monallt) i ddechrau blwyddyn:
Nid
rhwydd yw mentro iddi – ni wyddom
Hyd ein dyddiau ynddi;
Er hyn nid dieithr inni
Yw llaw ddoeth ei Llywydd hi.
T.
Meirion Hughes
|
|
YR
ARWYDD DDIM YN PLESIO!
|
|
|
Teimladau cymysg iawn sydd ymysg trigolion
Rhosbodrual ynghylch arwydd electronig newydd. Pwrpas yr arwydd newydd ydi
rhybuddio gyrwyr sydd yn dod o Dre mai
40 milltir yr awr ydi’r cyflymdra uchaf swyddogol.
Er bod pawb yn cytuno bod angen arwydd o’r
fath ac yn ddiolchgar i’r Cynghorydd Huw Edwards a sawl un arall am drefnu bod
yr arwydd wedi ei osod mae sawl un yn gofyn pwy ddewisodd ei osod yn lle mae o
a pham nad oes arwydd tebyg i rybuddio gyrwyr sydd yn dod o gyfeiriad Pontrug!
Methu dallt mae rhai pam nad yw’r arwydd
wedi’i osod yn agosach at Glan Peris lle mae arwydd 40 milltir yr awr. Fe
fyddai hynny yn rhoi digon o rybudd i yrwyr cyn
cyrraedd Rhosbodrual. Yn ôl rhai, mae gyrwyr wedi hen gyrraedd
Rhosbodrual cyn gweld yr arwydd electronig ac felly rhaid gofyn pa mor
effeithiol ydi o, o weld yr arwydd mor
hwyr. Hefyd pam nad oes arwydd tebyg ar y ffordd i mewn i’r dre gan bod nifer
fawr o geir cyflym yn dod o gyfeiriad Pontrug hefyd.
Does dim amheuaeth bod y traffig sydd yn mynd
heibio Rhosbodrual wedi cynyddu yn aruthrol dros y blynyddoedd diwetha’ ac mae
croesi’r ffordd fawr yn gallu bod yn beryg bywyd ar adegau. Mae sawl un wedi
gofyn am gael croesfan er mwyn gallu croesi’r ffordd yn ddiogel a byddai sawl
un yn Rhosbodrual yn croesawu datblygiad o’r fath.
|
|
GISDA’n cael sylw drwy Gymru
|
|
|

Fel rhan o ymgyrch y BBC i ddwyn ymwybyddiaeth ielusennau arbennig, cafodd GISDA ei ddewis ar gyfer darllediad elusennol ar y
we.
Roedd y darllediad yn ymddangos ar wefan y BBC o ddiwedd
Tachwedd hyd at y flwyddyn newydd. Fel y gwyddom, gall yr adeg yma o’r flwyddyn
fod yn amser anodd i deuluoedd gyda’r Nadolig yn rhoi pwysau ychwanegol ar
sefyllfaoedd bregus, felly rydym yn teimlo fod amseriad y darllediad wedi bod
yn addas iawn i gwmni fel GISDA.
Mae hyn yn gyffrous iawn i ni gan ei fod yn golygu y bydd
rhwng 1000 a 10,000 o bobl yn clywed am GISDA dros gyfnod y darllediad. Mae’n
gyfle gwych i estyn llaw i bobl ifanc ac i godi proffeil y cwmni.
Dywedodd Paul Elliot, ar ran y BBC, mai ei obaith ef yw y
bydd y darllediad yn codi ymwybyddiaeth o’r gwaith y mae GISDA’n ei wneud yng
Ngwynedd a’r gwasanaethau y maent yn eu cynnig i bobl ifanc wrth eu cefnogi i
fyw’n annibynnol.
|
|
Ar ôl y glaw.
|
|
|
Ym
mis Tachwedd 2004 cefais newyddion gwych, ar ôl dwy flynedd o boeni a brwydro
yn erbyn canser y colon a’r iau, 'roedd canlyniadau'r tri phrawf a gefais yn
ystod y mis hwnnw yn glir. Gellwch
ddychmygu'r teimladau yr oeddem fel teulu wedi bod drwyddo, a’r rhyddhad mawr
yn awr yw fy mod yn gwella.
Yn
ystod yr adeg hynny fe ddaeth yr awen, a rhaid oedd rhoi geiriau ar bapur, a
dyma nhw;
Ar ôl y glaw a ddaeth yn
lli
Gan chwalu holl sylfaeni
‘mywyd i
Yn storm ddi-ddisgwyl,
Ddi drugaredd wyllt,
Wedi dod i ddryllio fy
mod.
Ond ni theflais i y lliain
Mewn anobaith afrad,
Fe deflais i y rhwyd
I ganol môr o gariad,
Ac yma’r wyf - ar ôl y
glaw.
Ar ôl y glaw, yr enfys
ddaeth yn glir,
Yn obaith dyfod gwennol i
fy nhir,
A gwên yr heulwen
Ddaeth i leddfu’r boen,
Sydd wedi bod yn dryllio
fy mod.
Ond ni theflais i y lliain
Mewn anobaith afrad,
Fe deflais i y rhwyd
I ganol môr o gariad,
Ac yma’r wyf –ar ol y
glaw.
Cefais
y syniad o’r teitl oddiar anrheg a gefais gan ffrind yn ystod fy ngwaeledd,
pecyn o nwyddau ymolchi o’r enw “After the Rain”. Ar syniad yn y cytgan o
beidio taflu’r lliain, ond yn hytrach daflu’r rhwyd, o sgwrs a gefais un noson
yn yr ysbyty gyda’r Parch Roger Donaldson.
‘Roedd yn ymwelydd cyson ac yn hwyliog bob amser. Ond un noson daeth yn ol at ddrws fy ystafell
a dweud “Thought for the day - don’t throw in the towel throw in the net”. Mae fy niolch hefyd i bawb fu’n fy nghynnal
yn ystod yr amser dyrys yma, a dyna sut daeth y Môr o Gariad i mewn i’r
gerdd. ‘Roedd y môr yn fy nghynnal
drwy’r amser.
Mae
pum mlynedd wedi mynd heibio er pan euthum yn sâl, gan fawr obeithio y bydd y
geiriau hyn o help i unrhyw un arall sydd wedi bod fel fi ac y byddant yn cael
cysur ohoni.
Gyda
diolch i bawb.
Gwen
Jones.
|
|
ANGEN
2,600 MWY O BYMPIAU INSWLIN YNG NGHYMRU!
|
|
|
Mae Diabetes UK yn dweud y dylai pympiau inswlin fod ar gael i fwy o bobl â
diabetes wrth i ymchwil newydd ddangos bod pympiau'n gallu bod yn fwy
effeithiol na phigiadau inswlin i reoli glwcos y gwaed a lleihau hypoglycaemia.
Bu ymchwilwyr yn yr Hospital Clínic i Unversitari, Barcelona, yn astudio 153 o
bobl gyda diabetes Math 1 a fu'n trin eu diabetes o'r blaen â phigiadau
inswlin. Wedi dwy flynedd o ddefnyddio pwmp inswlin roedd lefel glwcos eu gwaed
ar gyfartaledd wedi disgyn o 7.9% i 7.3% (lefel rhwng 6.5% a 7.5 % yw'r nod).
Mae rheoli glwcos y gwaed yn dda yn hanfodol er mwyn lleihau'r perygl i bobl â
diabetes ddatblygu problemau difrifol fel dallineb, clefyd y galon a chlefyd yr
arennau. Cyhoeddir yr astudiaeth heddiw yng nghylchgrawn Diabetic Medicine.
Dywedodd Andrew Misell, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Diabetes UK Cymru:
"Mae'r ymchwil yma'n ategu'r dystiolaeth y gallai pympiau inswlin fod o
fudd mawr i lawer mwy o bobl â diabetes. Rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol sicrhau
bod pympiau ar gael i bobl ar sail angen clinigol, dewis personol a pha mor
addas ydyn nhw ar gyfer y driniaeth."
Ar hyn o bryd, mae pympiau ar gael yn anghyson ar draws y Deyrnas Unedig.
Ychydig dros 2% (6,000) o bobl â diabetes Math 1 yn y Deyrnas Unedig sy'n
defnyddio pympiau, o gymharu â ffigurau rhwng 15 a 20% yn yr Unol Daleithiau
a'r Almaen. Mae Diabetes UK yn credu bod 50,000 o bobl eraill yn y Deyrnas
Unedig a allai fod yn defnyddio pympiau ond sydd heb eu cael hyd yn hyn - gan
gynnwys mwy na 2,600 o bobl yng Nghymru. Yn ôl arolwg ddiweddar gan Diabetes
UK, dim ond 67% o Fyrddau Iechyd Lleol Cymru sydd â pholisi ar ddarparu
pympiau.
Mae pwmp inswlin yn costio mwy na phigiadau inswlin: £1,400 y flwyddyn o
gymharu â thua £500. Er hynny, gallai pympiau arbed arian mawr i'r Gwasanaeth
Iechyd yn y pen draw trwy leihau costau'n deillio o gymhlethdodau diabetes.
Dyma rai o'r costau posibl i'r Gwasanaeth Iechyd os na reolir diabetes yn
dda:
* Un
noson yn yr ysbyty wedi dod i mewn trwy'r Adran Frys gydag argyfwng
diabetig - £350
* Un
cwrs o driniaeth laser am retinopatheg - £850
* Dialysis
yr arennau am flwyddyn - £15,000
I gael gwybod mwy, neu i siarad â rhywun sy'n defnyddio pwmp inswlin,
cysylltwch ag Andrew Misell ar 029 2066 8276 neu 07764 905954.
|
|
Pobol
Dre
|
|
|
Brian
Williams, Carter’s

Y Siop Carter’s wreiddiol
“Ar ôl
darllen yn Papur Dre am Marjorie
Davies a’r Girl Guides yn mynd i siop Carter’s i brynu sgolops, daeth llawer o
atgofion yn ôl i mi,” meddai Brian Williams. Safai’r siop wreiddiol ar y gornel rhwng Stryd William a Stryd Mary, lle mae cartref y brodyr
Miserotti heddiw.Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ei daid a’i nain Williams
gadwai’r siop, a’i daid yn un o sylfaenwyr St. John’s yn y dref. Prynodd Arthur
Carter o Ormskirk y busnes yn rhif 18, yn 1924 ac roedd y teulu Williams yn byw
yn rhif 16 erbyn hynny. “Yn y dauddegau yng nghyfnod nain a taid Carter, pris
pysgodyn oedd 2d a chips yn 1d, felly roedd yn bosibl cael fish a chips i wyth
deg o bobl am £1; rhaid cofio fod 240 o geiniogau mewn punt yr adeg honno!”
Priododd merch siop Carter’s â Tommy Williams y bachgen drws nesaf yn 1935 -
nhw oedd rhieni Brian. Yn ddiddorol felly roedd nain a thaid Brian Williams o’r
ddwy ochr wedi bod yn cadw’r siop.
Tommy
Williams
Yn 1945 aeth tad Brian, oedd wedi bod gyda’r
Gwasanaeth Tân yn ystod yr Ail Ryfel Byd i fyw i’r siop. Cyn hynny bu’n mynd o
gwmpas efo motor beic a “side car”glas i werthu pysgod ffresh cyn belled â
Blaenau Ffestiniog. Roedd cadw’r siop chips yn waith caled ond roedd Tommy
Williams yn barod am unrhyw fenter newydd. “Fy nhad oedd y cyntaf i wneud
crisps yn lleol a’u pacio mewn bagiau gyda’r enw Carter’s. Byddai Owie Hughes
yn ei helpu i’w cludo yn y fan i dafarndai a siopau ar draws gogledd Cymru gan
fod galw mawr amdanynt.” Roedd adran y siop groser yn brysur ar hyd y
blynyddoedd. Deuai’r rhan fwyaf o’r cwsmeriaid o ochr Ffordd Llanberis ac
Ysgubor Goch a galwodd Brian nhw’n “halen y ddaear” am eu mor barod eu
cymwynas. Yn ddiweddarach caewyd yr adran sglodion a daeth Mr. Tommy Williams â
dillad i’r rhan honno. Roedd hefyd yn ffermio a’r teulu wedi symud i fyw i
fferm Maesincla Isaf wrth afon Cadnant.

Siop
Newydd Carter’s
Pan ymddeolodd
Brian o’i swydd fel dirprwy brifathro Ysgol Gyfun Llangefni, mentrodd yntau i
fyd busnes.“Roedd yn fy ngwaed a phenderfynais agor siop lestri yn y farchnad
cyn symud i’r siop bresennol yn Stryd y Plas. Roedd yn rhaid ei galw yn
Carter’s o barch i Nain a Taid”. Rydan ni i gyd wedi mwynhau edrych ar y mygiau
china yn y basgedi gwellt tu allan i’r siop heb sôn am y llestri o safon uchel
oddi mewn. Mae llestri Masons brynwyd yno
yn addurno sawl dresel yn y fro. Dwy o’r merched sydd wedi helpu fwyaf
yn y siop yw Glenys Williams ac Alice Hughes gan roi amser i Brian wneud gwaith
gwirfoddol yn bennaf er mwyn Caernarfon.
Dau
Faer ac un Gadwyn
Yn
1974 ail-drefnwyd llywodraeth leol a chynghorau Bwrdeistref a Sir Gaernarfon yn
diflannu. Y sir fawr newydd oedd Gwynedd. Fis Ionawr penodwyd Dafydd Jones (DWEJ) tad Dewi Rhys, yn Faer
cyntaf tref Caernarfon. “Ond nid oedd cadwyn iddo ei gwisgo oherwydd fod Meurig Williams eisoes yn Faer
Bwrdeistref Frenhinol Arfon am dri mis arall. Cafwyd seremoni arbennig yn
Ebrill pan gyflwynodd Meurig y gadwyn i DWEJ.”
Brian Williams ddewiswyd yn ddirprwy Faer cyntaf y dref. Er hynny nid
aeth yn Faer y flwyddyn ganlynol oherwydd cyfrifoldebau yn yr ysgol. “Daeth yr
anrhydedd honno i mi yn 1994 er i mi fod yn Faer Arfon yn 1981.”
Pwysigrwydd
Caernarfon
Bu
Brian Williams ar y Fainc am chwarter canrif ac mae yn un o aelodau gwreiddiol
y Gymdeithas Ddinesig. Daw i bob cyfarfod o Gyngor y Dref fel aelod o’r
cyhoedd. “Dwi’n meddwl y dylem wneud mwy o’r ffaith i ni gael y statws o fod yr
unig Dref Frenhinol ym Mhrydain, er
fod Bwrdeistrefi Kensington, Windsor a Kingston upon Thames â’r hawl i defnyddio’r gair “Brenhinol”. Pan oeddwn yn Faer Arfon yn 1981 ymwelodd Charles a Diana â’r
dref ar y diwrnod cyntaf ar ôl eu mis mêl.
Roedd yn ddiwrnod oer iawn a’r gwynt yn chwythu o’r môr. Ond daeth tyrfa
fawr at gerflun Lloyd George ar y Maes a Diana’n edrych yn hardd iawn mewn dillad coch.
Cyfarchais hi yn Gymraeg ac atebodd
gyda, “diolch yn fawr” i gymeradwyaeth y dorf.”
Mae Brian yn gobeithio y daw Caernarfon
unwaith eto yn dref bwysicaf gogledd Cymru.
Cau
Siop Carter’s
Ar Ionawr 19, bydd
siop Carter’s yn cau ar ôl bron i gan mlynedd o gadw busnes yn Dre gan yr un
teulu. Daeth cwsmeriaid ffyddlon o bell ac agos i’r sêl a chael bargen go dda
ar gyfer anrhegion Nadolig y flwyddyn
nesaf. Ond fydd Brian ddim yn segur ac
edrychwn ymlaen am ei fenter nesaf gan fod ganddo ddiddordebau lu. Mae’n siwr y
bydd yn dal i gael ei goffi boreol drws nesaf i’r hen siop efo’i ffrindiau.
Dymuniadau gorau ar eich ail ymddeoliad Brian a Blwyddyn Newydd Dda .
Margaret Wyn Roberts.
|
|
Bwyd ac ati
|
|
|
Sefais ar
lan yr hen afon Oxus yn y dwyrain unwaith, yn
chwys domen. Mae iddi enw newydd ers canrifoedd, ond yno, yn fy nychymyg,
gallwn weld Timur Fawr, brenin "yr hollfyd" yn golchi ei gleddyf
gwaedlyd yn nwr yr afon. Llusgai un goes ar ei ol ac yr oedd un fraich iddo yn
ddiffrwyth, a gelwid ef "Timur Lenk" ,( Timur Gloff), a Thartar
oedd o gyffiniau Samarkand,
ac erbyn y flwyddyn1370, ef oedd Khan yr holl Fongoliaid. Concrodd bobman o'r
Indus a'r Ganges, i Ddamascus yn Syria,
a chyn belled ag Ankara yn Nhwrci.. Bu farw wrth arwain cyrch arall ar China. Gwelais ei fedd o farmor yn Samarkand ac arno'r
arysgrif, "Yma y gorwedd Brenin yr Hollfyd". Er fod yn gas gennyf
drais a rhyfel, ni allaf beidio a rhyw how edmygu'r cythraul drwg yma yn
golch'r gwaed odi ar ei gleddyf ac yn llusgo ei goes ar ei ol. Dyn ofnadwy yn
pladuro pobl ar draws Asia, ond dyn ei oes.
Ond y
diwrnod poeth hwnnw, hen wr budr yr olwg safai ar lan yr afon. Ei groen yn
frown a'i ddillad yn frown a daliai ddau bysgodyn brown a hyll, yn ei
law, gan geisio eu gwerthu i ni. 'Roedd y pysgod yr un lliw a'i law ac
wedi dechrau cyrlio o gwmpas y gynffon, yn yr haul tanbaid.Yr oedd lliw yr afon
yr un fath, yn fudreddi i gyd, a phrynwyd mo'r pysgod gan neb. Cawsom ninnau
bicnic o fara a thun tiwna o Rwsia. Yr oedd hyn yn y dyddiau cyn i mi gael yr
alergedd mawr i bysgod. Cofio cael pysgodyn "sweet and sour" yn Uganda- tilapia mawr hardd o Lyn Fictoria, a merch hardd iawn yn gweini arnom a
ninnau yn gwneud ein gorau i glandro i ba lwyth y perthynai. Fi ofynodd yn y
diwedd, ac o wlad Ruanda y deuai. Tutsi hardd
oedd, wedi dianc o flaen byddin erchyll yr Hutu. Timur, y bedwaredd ganrif ar
ddeg; Hutu a Tutsi yr ugeinfed - 'does dim o gwbl yn newid. A dyma ni eto
ynghanol trallod Darfur, yn rhoi pob math ar
gymorth i wraig wen o Lerpwl a'r tedi ber, ond ychydig goblyn i'r lliaws sy'n
marw yn yr un wlad. A dyma fi wedi crwydro oddi wrth y pysgod.
Pan na fydd
digon o benfras ar gael i'n bwydo efo'n sglodion, dywedir mai at y forlas y
bydd raid troi. Chefais i erioe forlas a chymeraf fi byth un chwaith, gan fod y
syniad yn troi arnaf. Mae'n waeth yn Saesneg - "pollack". Mae popeth
ddaw o'r mor yn tueddu i droi fy stumog, hyd yn oed pe na bai gennyf alergedd
iddynt. Mae y mor yn fudr. 'Rydym yn ei ddifa fel popeth arall. Pan yn blant,
arferem fwyta cryn dipyn o fecryll. Wnai fy Nhad ddim eu cyffwrdd. Yr oedd wedi
adeiladu peipen garthffosiaeth yn y mor ac wedi gweld ar beth yr oedd y mecryll
yn porthi! Uch a fi! Hoffwn pe hoffwn bysgod tew llawn olew iachus i gynnal
ymennydd hen gagan fel fi yn fywiog, ond gwneud hebddo fydd raid.
Bwytewch chwithau gymaint o bysgod mor ag a gewch, cyn iddynt oll gael eu difa
neu eu gwahardd. Os mentrwch chi.
A Blwyddyn
Newydd Dda i bawb.
Gwenllian.
|
|
Sgota
|
|
|
Dyma’r
amser y bydd pysgotwyr yn cwrdd am sgwrs i drin a thrafod y tymor diwethaf. Ac mae ambell i stori yn aros yn y cof yn hwy
na’i gilydd.
Fel hon gan
y sgotwr o Fachwen a arferai fynd allan yn ei gwch ar Lyn Padarn rai
blynyddoedd yn ôl.
Pysgota yr
ochor bella i Bedwargoed yr oedd o, ar ddiwrnod braf ddechrau Mai.
Fe daflodd
ei blu ; Greenwell, Blewyn ysgyfarnog a Chwilen ddu.
Bachodd
sgodyn ar y Blewyn ysgyfarnog. Aeth y sgodyn yn syth am Penllyn, ond gyferbyn â
Chraig yr Undeb roedd yn rhaid i’r sgotwr geisio ei droi neu buasai wedi mynd
lawr yr afon.
Choelia
chwi ddim, llwyddodd i wneud hynny rhyw dair llath o’r bont. I fyny â’r sgodyn
yn ei ôl am Llanbêr gan dynnu’r cwch gydag ef.
Roedd yr
enwair wedi plygu’n ddwbwl, ond fe ddaliodd ac yn ei flaen ag o, yn syth am
Ynys Felan.
Rhoddodd y
brawd bwysau arno eto wrth domen Vivian, ond
cyn iddo droi roedd y cwch bron yn afon Bala.
Yn ei flaen
wedyn nes cyrraedd ochr Buwch a Llo, ond erbyn hyn roedd yn dechrau blino a llwyddodd i droi am
y lan yn cae Llwyncoed.
Heb air o
gelwydd, dwi’n dweud wrthoch chi hogia, pan ges i o i’r lan mi aeth wyneb y
llyn i lawr droedfedd !
Roedd na un
arall ar lyn Padarn yn cawio ei blu ei hun, ac yn hoff iawn o frolio am ei allu
i dwyllo pysgod gan ddangos un o’i hoff blu.
Brolio fod
y bluen honno wedi bachu dwsinau o bysgod.
Dangosodd
hi i’w bartner.
Ac meddai
hwnnw yn ddigon diniwed.
“ Blewin
twrch ydy hon.”
“Ella mai
dyna wyt ti’n ei feddwl,” meddai ei gyfaill “ ond nid dyna be mae’r pysgod yn
ei feddwl.”.
“Ond tydi
hi ddim gwahanol i flewyn twrch,” medd y brawd eto.
Fe ddaeth
yr ateb yn syth.
“Weli di ddim gwahaniaeth ella, ond mae’r
pysgod yn gallu.”
Blwyddyn
newydd dda i chi i gyd.
Hwyl ar y
bachu.
Glas y
Dorlan
|
|
STENOGRAFFYDD
A FFAN FFWTBOL
|
|
|

Er ei fodyn un o gefnogwyr seloca tîm ffwtbol Dre, yn y Valley, nid yr Oval, y gwelwch
chi David Pritchard y dyddiau yma. Mae o yn byw yn Llundain ers deng mlynedd ac
yn byw o fewn cerdded i gae Charlton Athletic.
“Dwi’n byw
yn Greenwich,”
meddai David, sy’n wreiddiol o Stryd Dinorwig “ ac er bod Charlton yn nes, mi
fydda i’n mynd i weld West Ham reit amal hefyd. Mae na awyrgylch fwy cartrefol
yn Upton Park.”
Ond pan
fydd o adra yng Nghaernarfon yr Oval piau hi.Cyn symud i Lundain roedd o’n un
o’r selogion helpodd i beintio’r waliau rownd y cae. Mae’n cofio’n dda faint o
strach oedd sgrifennu CAERNARFON yn fawr ac yn wyrdd tu ôl i gôl yr Hendre !
Nôl ym 1996
oedd hynny, ac wrth wylio’r Caneris yn erbyn Bangor dros Dolig, teimlai David y gallai’r
Oval wneud efo côt newydd o baent hefyd !
Gwaith aeth
a David i Lundain wrth gwrs. Ar ôl gadael Ysgol Syr Hugh Owen aeth i’r Coleg yn
Aberystwyth.Bu’n gweithio am gyfnod wedyn i Gyngor Gwynedd yn y Felinheli. Ond
yna, trwy hap a damwain dyma fo’n darllen erthygl am fyd y stenograffydd. Be
’di peth felly, meddech chi? Wel y grefft o sgrifennu - a theipio – llaw fer.
Teipio ydy
arbenigedd David. Gall deipio hyd at 200 gair y funud pe bai raid. A phan
ystyriwch chi mai rhyw 150 gair y funud ’dan ni’n ei siarad mae hyn’na gyflym !
Fe gymrodd
dair blynedd i feistroli’r grefft ar beiriant arbennig. Peiriant sy’n galluogi
rhwyn i wneud llaw fer yn ffonetig ac felly i gofnodi pob gair sy’n cael ei
ddweud, boed mewn achos llys neu bwyllgor.
Rownd
llysoedd Llundain y cychwynodd David ond bellach, ag yntau’n gweithio ar ei
liwt ei hun, gall y gwaith fynd ag ef led-led y wlad a thu hwnt. Dim ond rhyw
gant sy’n medru’r grefft yng Ngwledydd Prydain felly mae digon o alw amdano.
“Dwi’n dal
i ’neud lot o waith llysoedd,” meddai, “ gwaith i awdurdodau iechyd, dipyn i’r
American Embasi, cynadledda ac ambell i gort marshial hyd yn oed. A dwi’n mynd
i Baris, Brwsels a’r Almaen reit aml. Dwi
’di gweithio yn Stourmont, llywodraeth Gogledd Iwerddon hefyd. Oedd
hynny wsnos ar ôl claddu George Best.”
A dyna ni’n
ôl at ffwtbol eto.
Cafodd
gynnig deg diwrnod o waith yn Lisbon cyn ’Dolig. Ond fe’i gwrthododd, er mwyn cael dod adra i Dre…ac i’r Oval i weld
y Caneris yn cael stîd gan Bangor.
|
|