Gorfennaf 2007
25 Gorffennaf

Mi fydd Bara Caws yn
dathlu ei ben-blwydd yn 30oed yn y ‘Steddfod eleni. Tri deg mlynedd yn ôl llwyfannwyd sioe gyntaf
Bara Caws - ‘Croeso i’r Roial’ yn Eisteddfod Genedlaethol
Wrecsam. Eleni bydd y cwmni yn agor ei sioe glybiau newydd –
CAFFI BASRA gan Eilir Jones yn Eisteddfod Sir y Fflint a’r
Cyffiniau - yn Y Wyddgrug Bydd y
perfformiadau o Nos Lun 6ed o Awst hyd at Nos Iau 9fed o Awst am
8.00y.h. Gellir archebu tocynnau o
Swyddfa Docynnau Theatr Clwyd 0845 3303565.
Mae cludiant bws (am ddim!!)
i gael o Faes y ‘Steddfod i Glwyd Theatr Cymru.
Yr actorion yw: IWAN
CHARLES, GWENNO ELIS HODGKINS, EILIR JONES,DYFED THOMAS ac AWEN
WYN WILLIAMS. Y cyfarwyddwr yw: TUDUR
OWEN. EMYR REES sydd yng ngofal y
gerddoriaeth. Dyma’r tro cyntaf i Iwan Charles weithio
gyda Bara Caws a dyma’r tro cyntaf i Tudur gyfarwyddo i’r cwmni. A dyma’r tro cyntaf un i Eilir Jones
sgwennu sioe glybiau!! Mi
ymddangosodd Dyfed Thomas yng nghynhyrchiad cyntaf un y cwmni -
‘Croeso i’r Roial’ 30 mlynedd yn ôl!!!! Mae Dyfed yn teimlo bod hi’n fraint ac yn
anrhydedd cael cyfle i weithio gyda Bara Caws 30 mlynedd yn ddiweddarach.
Yn dilyn y
perfformiadau yn y ‘Steddfod mi fydd CAFFI
BASRA yn teithio am gyfnod o bum wythnos o
amgylch cymunedau’r gogledd (gweler rhestr y daith). Mi fydd rhaid i drigolion y de fachu ar y
cyfle i weld y cynhyrchiad yn y ‘Steddfod!!!
Mae’r tocynnau yn
gwerthu’n gyflym yng Nghlwyd Theatr Cymru, felly i arbed siom rydym yn argymell
fod pawb yn archebu eu tocynnau o flaen llaw i’r Eisteddfod a hefyd i’r daith.
MAE LLUNIAU O’R
CYNHYRCHIAD AR GAEL. OS OES ANGEN
GWYBODAETH BELLACH YNGLYN Â CAFFI BASRA FFONIWCH LINDA 01286 676335
GWASANAETH DINESIG I NODI 700
MLYNEDD O ADDOLIAD YN EGLWYS Y SANTES FAIR
English version here
Heddiw, yr 11eg o Orffennaf, 2007, cynhaliwyd
Gwasanaeth Ddinesig arbenning yn Eglwys y Santes Fair, Caernarfon, i nodi
penblwydd yr Eglwys yn 700 oed eleni. Yn 1307 y rhoddwyd gorchymyn gan y Brenin
i adeiladu’r Eglwys o fewn muriau’r hen dref a byth er hynny cynhaliwyd
addoliadau yn ddi-feth ynddi.
Er bod Eglwys y Plwyf Llanbeblig lawer yn hyn
ac yn dyddio’n ôl i’r 6ed ganrif, St. Mair yw’r Eglwys a gysylltir â gweinyddu’r
dref ac â chyfraith a threfn er ei dyddiau cynnar a gwelwyd ymysg y
gwahoddedigion gynrychiolaeth deg o rai sydd heddiw yn rhoi gwasanaeth clodwiw
mewn gwahanol faesydd i’r gymdeithas.
Agorwyd y gwasanaeth drwy ganu’r anthem “Duw
Gadwo’r Frenhines” ac yn dilyn gydag emyn Cymraeg “Molianned uchelderau’r nef”.
Darllenwyd y llith gan y Parch Ganon Geraint Meirion-Jones ac ar ôl canu emyn
Saesneg “All people that on earth do dwell”
cafwyd anerchiad yn Gymraeg ac yn Saesneg gan y Rheithor, Y Parch Ganon R.F.
Donaldson. Dewisodd destun o lyfr Eseciel gyda’r pwyslais ar bwysigrwydd gwylio
a gwarchod ein cymdeithas, sylwadau a oedd yn hynod berthnasol i ni heddiw. Y
Ficer, Y Parch Jeffrey Hughes a arweiniodd y darlleniad o’r Credo ac offrymodd
Weddi. Yna canwyd yr emyn olaf “Un fendith dyro im”. Traddodwyd y fendith a
chanwyd “Hen Wlad fy Nhadau” i diweddu’r gwasanaeth.
Yn dilyn, gwahoddwyd y gwahoddedigion gan Gadeirydd
Cyngor Gwynedd, Y Cynghorydd Meinir
Owen, i’r Pencadlys yn Stryd y Jêl am luniaeth.
T.
Meirion Hughes.
10fed Gorffennaf
Annog
landlordiaid i helpu i ostwng niwsans swn
Er gwaetha’r ymateb positif i’r gwaharddiad ysmygu a
ddaeth i rym yng Nghymru ym mis Ebrill, mae Cyngor Gwynedd ynghyd â Heddlu
Gogledd Cymru yn awyddus i sicrhau fnad yw’r rheini sy’n gadael eiddo
trwyddedig am sigaret yn achosi niwsans cyhoeddus.
Ers cyflwyno’r gwaharddiad ysmygu mewn mannau cyhoeddus
caeedig, gwelwyd cynnydd mewn digwyddiadau o niwsans cyhoeddus a chamymddwyn y
tu allan i eiddo trwyddedig.
Mae Cyngor Gwynedd a Heddlu Gogledd Cymru wedi dod at ei
gilydd i atgoffa bob trwyddedai fod ganddynt gyfrifoldeb dan Ddeddf Trwyddedu
2003 i sicrhau nad oes digwyddiadau o niwsans cyhoeddus a chamymddwyn yn
digwydd y tu allan i’w heiddo.
Dywedodd y Cynghorydd J R Jones, Arweinydd Portffolio
Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd:
“Rydym yn falch iawn for y gwaharddiad ysmygu wedi ei
barchu gan drwyddedai ledled y Sir, ac rydym yn diolch iddynt am eu
cydweithrediad dros y misoedd diwethaf.
“Er hynny, mae tuedd wedi bod ymhlith rhai ysmygwyr i
fynd y tu allan am sigaret, ond ar ôl un neu ddau o ddiodydd yn ormod gallant
fod ychydig yn swnllyd ac achosi niwsans i aelodau eraill o’r cyhoedd. Ein
bwriad yw gweithio gyda trwyddedai Gwynedd i sicrhau nad yw’r fath
ddigwyddiadau yn digwydd y tu allan i dafarndai, clybiau a thai bwyta.”
Mae llythyrau wedi eu hanfon at drwyddedai ledled y Sir
yr wythnos yma i’w hatgoffa o’u cyfrifoldeb, ac i adael iddynt wybod y bydd yr
Heddlu a’r Cyngor fel yr Awdurdod Trwyddedu yn casglu tystiolaeth o’r
digwyddiadau hyn gyda’r posibilrwydd o adolygu trwyddedau eiddo.
"MW!"
GAN
/BY RHYS EDWARDS
ARDDANGOSFA
LLUNIAU GWARTHEG AGORIAD
PREIFAT GORFFENNAF
16 7.30 2007
WEDYN,
AGORED I'R CYHOEDD THEN, OPEN TO THE PUBLIC
Bydd yr
arddangosfa yn rhedeg tan 4 Awst 2007 a hi
fydd cyfraniad Oriel Dafydd Hardy i Wyl Caernarfon
Mae Rhys Edwards wedi bod yn
tynnu llun gwartheg ers dros bum mlynedd bellach. Daeth ei brofiad cyntaf
o hyn pan brynodd gamera newydd a'i drio ar y peth cyntaf welodd pan gerddodd
allan o'r ty. Roedd y diddordeb oedd y gwartheg yn dangos yn y camera yn
eu gwneud yn destun arddangosfa gwych.
Meddai Rhys: "Dydi cwn byth yn
llonydd, mae defaid yn rhedeg ffwrdd, a dwi'm yn licio cathod, felly'n
naturiol, dwi di dod yn ffotograffydd gwartheg."
Mae ei ymgais i gael y llun perffaith o fuwch wedi cymryd Rhys mor bell â
Llanerchymedd a Phenryndeudraeth. Ei uchelgais yw cael ei fuwch ei
hun.
Mae Rhys Edwards yn gweithio fel dyn
camera gyda S4C,ac mae'n gweithio o Gaernarfon
(Wnewch chi yrru y
gwahoddiad 'ma i bobl eraill gyda diddordeb yng Nhgelf, os gwelwch yn dda?
Diolch yn fawr.)
2 Gorffennaf 2007
CYFLE TENANTIAID
Beth mae tenantiaid ei ddisgwyl gan un o landlordiaid
blaenaf Gwynedd ac Ynys Môn a pha wasanaethau y mae’r landlord yn eu cynnig i’r
tenantiaid?
Dyna’r cwestiwn gaiff ei wyntyllu mewn cyfres i
gyfarfodydd a gynhelir yr wythnos nesaf gan Gymdeithas Tai Eryri.
“Mae pob un o denantiaid y 1,700 o’r cartrefi a reolir
gan Gymdeithas Tai Eryri wedi cael gwadd i’r cyfarfod sydd mwyaf hwylus iddyn
nhw fel y gallent ddweud pa fath o wasanaethau y maent yn ei ddisgwyl gan y
Gymdeithas,” meddai Cyd-lynydd Gwella Gwasanaeth Cymdeithas Tai Eryri, Elliw
Llyr.
“Cawn ninnau’r cyfle i hysbysu’r tenantiaid o’n
hymdrechion parhaus i sicrhau eu bod yn bwy mewn cymunedau cyfforddus a
diogel,” ychwanegodd.
Cynhelir y cyfarfodydd yn y mannau canlynol:
Porthmadog (Y
Ganolfan) – prynhawn dydd Llun,
Gorffennaf 9, 2007, 2.00 - 4.00 o’r gloch Pwllheli (Canolfan Fron-deg) – nos
Lun, Gorffennaf 9, 2007. 6.00 - 8.00 o’r gloch Caernarfon (Ty Ni, Ty Chi, 23
Cae Llwybr) – prynhawn dydd Mawrth, Gorffennaf 10, 2007, 5.00 -7.00 o’r gloch
Llangefni (Ty Pwt, Cymunedau’n Gyntaf, Cyn Ysgol y British ) – prynhawn dydd
Mercher, Gorffennaf 11, 2007, 2.00 - 4.00 o’r gloch
Bydd lluniaeth ysgafn ar gael yn ystod y cyfarfodydd.
2 Gorfennaf 2007
Ymestyncynllun arloesol i helpu trigolion Gwynedd
Trigolion Pwllheli fydd y diweddaraf i allu manteisio
ar brosiect arloesol sy’n cynnig cyfle i berchnogion tai yng Ngwynedd wella
effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.
Gyda’r eisoes wedi targedu cartrefi preifat yn rhannau
o Ddyffryn Nantlle, Bangor, Bethesda, Deiniolen, Caernarfon, Blaenau
Ffestiniog, Trawsfynydd Clynnog, Llanaelhaearn, Nefyn a Morfa Nefyn, bydd
Cyngor Gwynedd, mewn partneriaeth gyda Nwy Prydain yn cynnig y prosiect “Yma i
Helpu” i gartrefi Pwllheli o hyn ymlaen.
Bydd y cynllun yn cael ei lansio yn ardal Pwllheli ar
ddydd Mercher, 11 Gorffennaf gydag arddangosfa o wybodaeth, yn ogystal â chyfle
i drafod gyda swyddogion o Gyngor Gwynedd a Nwy Prydain yn ogystal â’r cwmni
sydd wedi eu penodi i ymgymryd â’r gwaith, sef Hillserve Insulation yng
Nghanolfan Frondeg rhwng 11am a 4pm.
Fel rhan o’r achlysur, bydd brasfodel o dy yn cael ei ddefnyddio er mwyn arddangos y math o fesurau a ddefnyddir i
wella effeithlonrwydd yn y cartref. Bydd pawb sy’n cofrestru ar gyfer y cynllun
yn y lansiad ar 11 Gorffennaf yn derbyn bylbiau golau sy’n arbed ynni, yn
ogystal â’u cynnwys mewn cystadleuaeth arbennig lle gallant ennill tocyn siopa
gwerth £20 neu tegell arbeb ynni.
Dywedodd y Cynghorydd John Wyn Williams, sy’n arwain
ar faterion Gofal ar Gyngor Gwynedd:
“Mae prosiect Yma i Helpu yn tanlinellu ymrwymiad y
Cyngor i leihau nifer y tai sy’n dioddef o dlodi tanwydd. Rydym wedi ymrwymo i
roi trigolion Gwynedd yn gyntaf, ac fel rhan o’r prosiect blaengar yma, mae
nifer o drigolion y Sir eisoes wedi cael gwirio effeithlonrwydd ynni eu tai, a
hynny yn rhad ac am ddim. Bydd cyfle bellach i drigolion Pwllheli ymuno yn y
cynllun, a gobeithio y bydd nifer ohonynt yn gallu elwa.”
Nid yw’r fenter Yma i Helpu, sydd wedi ei ariannu ar y
cyd rhwng Cyngor Gwynedd a Nwy Prydain, yn costio unrhyw beth i gartrefi sy’n
cymryd rhan, a bydd yn lleihau nifer y trigolion sy’n byw mewn tlodi tanwydd –
sef cartrefi lle mae mwy na 10% o incwm y cartref yn cael ei wario ar danwydd.
Nid oes gofyn i berchnogion tai sy’n cymryd rhan yn y
prosiect fod yn gwsmeriaid Nwy Prydain, na hyd yn oed gael cyflenwad nwy yn y ty er
mwyn bod yn gymwys. Bydd pob cartref yn yr ardal ddewisedig yn derbyn llythyr
gan Nwy Prydain yn eu gwahodd i gymryd rhan, ac yna byddant yn derbyn cais i
ymgymryd ag arolwg gyda’r cwmni sy’n ymgymryd â’r gwaith, sef Hillserve
Insulation.
Bydd cartrefi sy’n gymwys am fesurau gwella
effeithlonrwydd yn cael cynnig insiwleiddio ceudod y waliau, insiwleiddio’r
llofft a siacedi tanc dwr poeth, wedi ei ariannu gan Gyngor Gwynedd a Nwy Prydain.
Ychwanegodd Anita Jones, Rheolwraig Datblygu Busnes
Nwy Prydain:
“Rydym yn hynod falch fod Cyngor Gwynedd eisiau
gweithio gyda ni unwaith eto er mwyn brwydro yn erbyn tlodi tanwydd. Mae ‘Yma i
Helpu’ yn unigryw gan ei fod yn dod â’r sector breifat, gyhoeddus a gwirfoddol
at ei gilydd, ac rydym yn siwr y bydd yn dod â nifer o fuddion i gartrefi yn ardal
Gwynedd."
29 Mehefin 2007
CanolfanPlas Pawb – Gwneud gwahaniaeth!
Mae canolfan arloesol sydd wedi ei chynllunio er mwyn
rhoi gwell dechreuad i blant a theuluoedd ardaloedd Peblig a Chadnant o
Gaernarfon, wedi ei agor yn swyddogol ddydd Gwener, 29 Mehefin, gan Gadeirydd
Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Meinir Owen.
Mae Canolfan Integredig Plant, Plas Pawb, sydd wedi ei
leoli ger Ysgol Maesincla, yn darparu amrediad o wasanaethau sy’n ymateb i
anghenion plant a rhieni yn lleol.
Mae’r gwasanaethau a ddarperir o’r ganolfan yn cynnwys
gwasanaeth gwarchod plant, cynlluniau chwarae dros yr haf, uned asesu dan oed
ysgol, yn ogystal â llyfrgell deganau symudol.
Wrth agor y ganolfan yn swyddogol, dywedodd Cadeirydd
Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Meinir Owen:
“Rydw i’n falch iawn am y gwahoddiad i agor canolfan
Plas Pawb. Braf yw gweld fod gennym yma ganolfan integredig ar gyfer plant sy’n
cynnig ystod hynod eang o wasanaethau hanfodol i blant lleol a’u rhieni.”
Mae Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Gwynedd yn gweld
Plas Pawb fel datblygiad allweddol, er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn
yr ardal. Maent yn ystyried datblygu prosiectau tebyg mewn ardaloedd eraill o
Wynedd.
Ychwanegodd Cadeirydd Bwrdd Rheoli Plas Pawb, y
Cynghorydd Roy Owen:
“Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau fod pob plentyn
ledled Gwynedd yn cael y dechreuad gorau mewn bywyd. Ein bwriad yw gweithio
gyda rhieni ac asiantaethau i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau newydd sydd
wedi eu hadnabod gan deuluoedd er mwyn sicrhau’r dechreuad gorau i’w plant a’u
teuluoedd.”
Yn ogystal â darparu amrediad cyffrous o brofiadau newydd
a chymorth ar gyfer plant lleol, mae Plas Pawb yn cynnig cyfleoedd newydd ar
gyfer rhieni yn yr ardal hefyd, a bydd yn darparu sgiliau newydd ar gyfer
rhieni trwy amrywiaeth eang o gyrsiau a fydd yn cael eu cynnig yn y ganolfan.
Mae’r ganolfan wedi ei datblygu trwy arian gan nifer o
gyrff, gan gynnwys grantiau gan y Gronfa Loteri Fawr, y Cynulliad Cenedlaethol,
Dechrau’n Deg a Cymorth.
Rheolir Plas Pawb gan Dîm Rheoli, sy’n cynnwys
cynrychiolwyr o amrediad o gyrff statudol a chyrff gwirfoddol yn ogystal â
chynrychiolwyr o rieni lleol.
26 Gorffennaf 2007
CYNGOR GWYNEDD YN AGOR DRYSAU IBOBL IFANC LLEOL
Bydd
Cyngor Gwynedd yn agor ei ddrysau i oddeutu 60 o bobl ifanc lleol ar ddydd
Gwener, 29 Mehefin, fel rhan o Weithdy Cabinet sy’cael ei drefnu mewn
partneriaeth gyda Gyrfa Cymru.
Pwrpas
y Gweithdy Cabinet yw rhoi’r cyfle i bobl ifanc dreulio’r diwrnod yn swyddfeydd
y Cyngor er mwyn dysgu mwy am waith Cyngor Gwynedd.
Yn yr
achos yma, bydd disgyblion Blwyddyn 12 Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon yn cael
cyfle i ystyried a thrafod mewn grwpiau y gwahanol fathau o faterion heriol a
phenderfyniadau anodd sydd yn cael eu gwneud gan gynghorwyr a swyddogion y
Cyngor yn ddyddiol. Bydd y Gweithdy Cabinet hefyd yn rhoi gwybodaeth i’r bobl
ifanc am y math o gyfleoedd gwaith sydd ar gael o fewn y Cyngor ar ôl iddynt
adael yr ysgol, goleg neu brifysgol.
Dyma’r
tro cyntaf i Gyngor Gwynedd gynnal Gweithdy Cabinet mewn cydweithrediad â Gyrfa
Cymru.
Dywedodd
Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Strategol Datblygu Cyngor Gwynedd:
“Rydym
yn hynod falch i allu cydweithio gyda Gyrfa Cymru i drefnu’r digwyddiad
cyffrous hwn ar gyfer disgyblion hyn Ysgol Syr Hugh Owen. Er bod
pobl ifanc yn ymwybodol am rhai o wasanaethau’r Cyngor fel ysgolion,
llyfrgelloedd, cartrefi henoed a chasglu sbwriel, rydym yn awyddus defnyddio’r
Gweithdy Cabinet fel cyfrwng i godi eu hymwybyddiaeth am yr amrediad eang iawn
o wasanaethau sy’n cael eu darparu gan y Cyngor.
“Rydym
hefyd yn awyddus rhoi gwybod iddynt am y mathau o gyfleon waith sydd yn bodoli
o fewn y Cyngor i bobl ifanc lleol, megis y Cynllun Hyfforddeion Proffesiynol,
yn y gobaith y byddent yn ystyried gwneud cais am swydd gyda’r Cyngor wedi
iddynt adael yr ysgol, coleg neu brifysgol.
Ychwanegodd
Ffiona Williams, Uwch Reolydd Gyrfa Cymru Gogledd Orllewin:
“Er
fod llawer o sôn am ddiffyg cyfloedd gwaith da i bobl ifanc, mae’r Cyngor yn
awyddus iawn i ddenu rhagor o weithwyr i rai meysydd gwaith.
“Mae
Gyrfa Cymru felly yn falch iawn o gael y cyfle i gydweithio gyda’r Cyngor i
gyflwyno’r gweithdy hwn fydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc Ysgol Syr Hugh Owen
ystyried eu cam nesaf yn ofalus a dysgu mwy am wahanol gyfloed yn lleol a allai
sicrhau bod ganddynt lwybr gyrfa addas at y dyfodol.”
Bwriad
Cyngor Gwynedd a Gyrfa Cymru yw cynnal Gweithdy Cabinet yn flynyddol a gwahodd
pob ysgol uwchradd i fynychu gweithdy yn eu tro.