|

THOMAS MEIRION
HUGHES
Ganed Meirion yn fab i Ellis ac Annie Hughes yn rhif 9, Y Stryd Fawr, sydd o fewn muriau Tref
Caernarfon ac, felly, gellid ei ystyried yn Gofi o’r iawn ryw. Addysgwyd ef yn
hen Ysgol y Bechgyn, Penrallt Isaf, ac yna yn yr Ysgol Sir, fel y’i gelwid bryd
hynny. Gadawodd yr ysgol i fynd i weithio fel “clerc bach” yn Swyddfa Clerc y
Dref ac oddi yno galwyd ef i fyny i’r Llu Awyr, lle bu’n gwasanaethu am dair
blynedd.
Dychwelodd i’w
dref enedigol ar ddiwedd y 1940’au a bu’n gweithio fel clerc i Shell Mex &
B.P. Ltd. yn Noc Fictoria, cyn penderfynu mynd yn drafaeliwr a bu’n gwerthu bwyd
anifeiliaid i ffermwyr ac yna, yn drafaeliwr bisgedi i siopau yng Ngogledd
Orllewin Cymru.
Yn 1962 aeth i
weithio i ffatri Ferodo fel Clerc Cynllunio ac yn ddiweddarach, ar ôl dilyn cwrs
dwy flynedd yn Y Coleg Technegol, Bangor, cafodd swydd fel Swyddog Technegol yn
yr Adran Astudiaeth Gwaith, ac yn ddiweddarach dyrchafwyd ef yn Uwch Swyddog.
Derbyniodd ymddeoliad cynnar yn 1985, a byth er hynny bu’n treulio ei amser
gyda’i ddiddordebau megis Llenyddiaeth Gymraeg a Hanes Lleol. Enillodd wyth
cadair ac un goron mewn Eisteddfodau lleol ac ysgrifennodd 5 o lyfrau hanes:
“Ffrwydriad y Powdwr Oil” yn y Gymraeg a Deathblast in Snowdonia yn Saesneg a
thri llyfryn dwyieithog sef:
Y Colera a’r
Gronfa Ddwr Newydd; Fferïau i Fôn a’r Cap a’r Faner Ddu.
Etholwyd Meirion
yn Gynghorydd Tref yn 1979, a gwasanaethodd y Cyngor fel Cadeirydd Y Pwyllgor
Adnoddau ac fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor Twristiaeth, ond bu raid iddo roi i fyny
ei sedd yn 1987 oherwydd ei iechyd er mawr loes iddo.
Ar hyn o bryd ef
yw Golygydd Cornel Gymraeg, Caernarfon
Online, ac mae hefyd yn gyfrannwr cyson i “Papur Dre” gyda’i golofn fisol ar
hanes Caernarfon. Bu’n briod â Meiriona ers 53 o flynyddoedd. Merch o Frynrefail
yw hi a fu’n bostfeistres yno o 1954 – 1959 a bu o fawr gymorth iddo pan oedd yn
ysgrifennu hanes y ffrwydiad yng Ngwm-y-Glo.
|