Cornel Gymraeg

 


Croeso



Golygydd Caernarfon Online Gareth Edwards a Golygydd Cornel Gymraeg T Meirion Hughes

Croeso i GornelGymraeg Caernarfon. Ein bwriad yw eich hysbysu'n gyson o'r diwyddiadau diweddaraf ym mywyd Cymraeg y dref a hefyd cynnwys hanesion am Gaernarfon a'n hetifeddiaeth. Gyda phoblogaeth ar draws 10,000 a thros 75% yn siarad yr iaith, gall Caernarfon hawlio bod Y DREF GYMREICIAF yng Nghymru.

Mae ganddi hefyd dafodiaeth unigryw a rydd gymeriad ac arbenigrwydd iddi. Clywir Cymraeg ar y strydoedd yn ddyddiol ac fel yng ngweddill Cymru erbyn hyn, mae'r arwyddion ffyrdd a'r cyfarwyddiadau yn ddwyieithog. Rhan yw'r is-wefan hon o'r grëp hynod lwyddiannus Caernarfon Online sy'n rhoi cyhoeddusrwydd i Gaernarfon er lles y bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Os ydych yn edrych am fusnes neu wasanaeth neulltuol yng Nghaernarfon, yna bydd clicio ar www.CaernarfonOnline.co.uk yn sicr o fod o help ichi ddod o hyd iddo.

Mae gan y Wefan hefyd le i ymfalchïoyn y ffordd y mae'n ymdrïn â'r newydd a'r hen a chydag is-wefan arall yn cynnig gwybodaeth hanesyddol am y dref. Gwasanaeth cwbl ddwyieithog www.Cofis-dre-ar-y-we.co.uk  yn rhoi cipolwg ar y dref yn y dyddiau gynt.Gall Caernarfon ymffrostio hefyd yn y ffaith mai hi yw'r unig Dref Frenhinol yng Nghymru ac mai yma yr arwisgwyd Tywysog Cymru yn 1969. Wrth i'r gwasanaeth dyfu gobeithiwn ledaenu'r wybodaeth am ddiwylliant Cymraeg y dref a'ch hysbysu o newyddion lleol am ddigwyddiadau oddiddordeb ym myd chwaraeon, cerddoriaeth, llên a.y.y.b.

Os eich bwriad ywymweld â Chaernarfon, yna cliciwch ar www.VisitCaernarfon.com


T. Meirion Hughes Enillydd Gwobr Tôst Champion 103FM 2007 - Iaith Cymraeg

Fideo o'r noson

 

Cyn Faer Helen Gwyn


Gair oddi wrth y Cyn Faer-Helen Gwyn

    Croeso i'r safle newydd ar wefan Swyddogol Tref Caernarfon-Y Gornel Gymraeg.

    'Rwy'n hynod falch fod Gareth a Meirion yn lansio'r Gornel Gymraeg, ac yn dymuno'n dda iddynt yn eu hymdrechion.  Dowch chwithau bobol Caernarfon a'r cylch-cyfranwch i'r Gornel a sicrhau yr un llwyddiant iddi ag sydd i Caernarfon Online.

    Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i Gareth Edwards am ei gyfraniad gwerthfawr i hysbysebu Caernarfon led y byd, a diolch i Meirion Hughes am ei ymroddiad i'r Gymraeg.

    Pob hwyl hogia

    Helen Gwyn

    Cyn Faer Caernarfon.

 

 

 


Copyright (c) 2006 www.CaernarfonOnline.co.uk. All rights reserved.

websites@CaernarfonOnline.co.uk