Cornel Gymraeg

 

Cartref>G Edwards

 

 

Gareth Edwards

 

 

Ganed a maged Gareth yng Nghaernarfon, un o’r ychydig i gael ei eni o fewn y dref ei hun. Mae’n briod â Meriel ac mae ganddynt un mab, Adam.

Yr hyn sydd fwyaf nodweddiadol ohono yw ei gariad angerddol tuag at ei dref enedigol ac mae’n awyddus i’w gweld yn ffynnu. Mae’n gysylltiedig â mudiadau o bwys yn y dref, yn aelod o Grwp Llywio Partneriaeth Caernarfon ac yn un o lywodraethwyr Ysgol yr Hendre.

Ef yw Gwefan Feistr a Golygydd Gwefan Swyddogol Tref Caernarfon www.CaernarfonOnline.co.uk a www.VisitCaernarfon.com . Addasodd y Wefan ar gyfer bod yn arf farchnata mwyaf llwyddiannus a welwyd erioed yng Nghaernarfon ac mae hi’n derbyn dros 270,000 o alwadau bob mis. Gareth hefyd a fu’n gyfrifol am ddarparu Gwefan uniaith Gymraeg, y gyntaf o’i bath, ar gyfer y dref www.Cofis.co.uk  a Gwefan Swyddogol y Gyngor Tref.

Ef hefyd ail lansiodd Siambr Fasnach Caernarfon a bu’n gadeirydd arni ers dwy flynedd. Cyhoeddodd y Siambr bamffled newydd yn ddiweddar i hyrwyddo twristiaeth yn y dref.                                              

Fel Hyfforddwr Gyrru Trwyddedig ers 1983, mae’n rhedeg Ysgol Yrru hir sefydledig, Ysgol Yrru Caernarfon/Caernarfon Driving School.

Yn ei amser hamdden mae’n dysgu Karate ac ef yw’r hyfforddwr Shukokai uchaf ei radd yn yr ardal – 5ed Dan.

 

 

 


Copyright (c) 2006 www.CaernarfonOnline.co.uk. All rights reserved.

websites@CaernarfonOnline.co.uk