Cornel Gymraeg

 

Cartref>Gair

Gair Gan y Golygydd

Gair Gan T Meirion  Hughes

 

26/11/07

Dafydd Ellis Thomas

Rwyf fi fel hen genedlaetholwr go iawn, 80 oed mewn chwe mis, ac nid rhywun sy’n fodlon neidio ar y bandwagon wleidyddol er mwyn ennill ffafrau gan y sefydliad Brydeinig fel Dafydd Elis Thomas, sydd bellach ddim yn deilwng i gynrychioli etholaeth Gymreig, fel y rhai a enilliwyd ganddo ef a Dafydd Wigley yn 1974. Ofnaf fod Dafydd El, y gwerinwr sosialaidd, wedi ei gyfareddu gan rai gwleidyddion Cymraeg ei hiaith (Toriaidd?) ac yn fodlon derbyn briwsion gan y sefydliad Brydeinig yn y gobaith o gael rhyw fath o Senedd yng Nghaerdydd bell.

Mae gennyf barch mawr i Owain a Seimon  ac chynghorwyr eraill am sefyll dros eu hegwyddorion ac yn gobeithio’n arw na fydd Dafydd Wigley a Cynog Dafis  ac eraill  ddim yn llyncu’r abwyd Prydeinig hwn.

Pob lwc i Lais Y Bobl.

T Meirion Hughes

 


Copyright (c) 2006 www.CaernarfonOnline.co.uk. All rights reserved.

websites@CaernarfonOnline.co.uk